RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion: eithriadau a chyfyngiadauLL+C

49Cyfyngiadau ar ddarparu taliadauLL+C

(1)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau i ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth neu anghenion gofalwr am gymorth o dan adrannau 35 i 45 oni bai—

(a)bod y taliadau’n rhai uniongyrchol (gweler adrannau 50 i 53),

(b)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)bod anghenion y person yn rhai brys, a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol i ddiwallu’r anghenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract neu yn rhinwedd contract, neu

(d)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

(2)Ni chaiff awdurdod lleol ddarparu taliadau wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 15(1) oni bai—

(a)bod yr awdurdod o’r farn—

(i)y byddai’r taliadau’n sicrhau un neu fwy o’r dibenion a grybwyllwyd yn adran 15(2), a

(ii)na fyddai’n rhesymol ymarferol sicrhau’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny mewn unrhyw ffordd arall,

(b)bod y taliadau’n cael eu darparu o dan gontract, neu yn rhinwedd contract, sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau ar gyfer ardal yr awdurdod, neu

(c)bod y taliadau’n cael eu darparu mewn amgylchiadau a bennir mewn rheoliadau.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 46-49 wedi eu cymhwyso (1.4.2015 at ddibenion penodedig, 6.4.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) gan Care Act 2014 (c. 23), aau. 52(8), 127(1) (ynghyd ag a. 52(13)(14)); O.S. 2015/993, ergl. 2(p) (ynghyd â darpariaethau trosiannol ynO.S. 2015/995); O.S. 2016/464, ergl. 2(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 49 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)