RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Taliadau uniongyrchol
I2I151Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion plentyn
1
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth o dan adran 37, 38 neu 39.
2
Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol bod taliadau o’r fath yn cael eu gwneud na chaniatáu hynny oni chaiff amodau 1 i 4 eu bodloni.
3
Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i berson (“P”) sydd—
a
yn berson â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth, neu
b
yn blentyn y mae arno anghenion am ofal a chymorth.
4
Amod 2 yw—
a
pan fo P yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan P, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan P, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;
b
pan fo P yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan P ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.
5
Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
a
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion y plentyn,
b
y caiff llesiant y plentyn ei ddiogelu a’i hyrwyddo drwy i’r taliadau gael eu gwneud, ac
c
bod gan P allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i P).
6
Amod 4 yw bod P wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
7
Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.