RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Taliadau uniongyrchol
I2I152Taliadau uniongyrchol i ddiwallu anghenion gofalwr
1
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth o dan adran 40, 42 neu 45.
2
Ond ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i daliadau o’r fath gael eu gwneud neu ganiatáu iddynt gael eu gwneud oni chaiff amodau 1 i 4 eu cyflawni.
3
Amod 1 yw bod y taliadau i’w gwneud i’r gofalwr y mae arno anghenion am gymorth (“C”).
4
Amod 2 yw—
a
pan fo C yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed, bod gan C, neu fod yr awdurdod lleol yn credu bod gan C, alluedd i gydsynio bod y taliadau yn cael eu gwneud;
b
pan fo C yn blentyn o dan 16 oed, bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan C ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael taliadau uniongyrchol.
5
Amod 3 yw bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni—
a
bod gwneud y taliadau yn ffordd briodol o ddiwallu anghenion C, a
b
bod gan C allu i reoli’r taliadau (naill ai ar ei ben ei hun neu gyda’r cymorth sydd ar gael i C).
6
Amod 4 yw bod C wedi cydsynio bod y taliadau’n cael eu gwneud.
7
Cyfeirir at daliad o dan yr adran hon yn y Ddeddf hon fel “taliad uniongyrchol”.