RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Materion atodol

I1I2C2C156Hygludedd gofal a chymorth

1

Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod anfon”) yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae arno ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person hwnnw’n mynd i symud i ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod derbyn”), ac y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

a

hysbysu’r awdurdod derbyn ei fod wedi ei fodloni felly, a

b

darparu’r canlynol i’r awdurdod derbyn—

i

copi o’r cynllun gofal a chymorth sydd wedi ei lunio ar gyfer y person, a

ii

unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r person ac, os oes gan y person ofalwr, unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r gofalwr y bydd yr awdurdod derbyn yn gofyn amdani.

2

Pan fo’r awdurdod derbyn yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae ar yr awdurdod anfon ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person yn mynd i symud i ardal yr awdurdod derbyn, a bod yr awdurdod derbyn wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

a

hysbysu’r awdurdod anfon ei fod wedi ei fodloni felly,

b

darparu i’r person, ac os oes gan y person ofalwr, y gofalwr, unrhyw wybodaeth y mae’n barnu ei bod yn briodol,

c

os plentyn yw’r person, darparu i’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn unrhyw wybodaeth sy’n briodol ym marn yr awdurdod, a

d

asesu’r person o dan adran 19 (os yw’r person yn oedolyn) neu 21 (os yw’r person yn blentyn), gan roi sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion y person am ofal a chymorth sy’n deillio o’r symud.

3

Os yw’r awdurdod derbyn, ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, yn dal heb gyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), neu y mae wedi gwneud felly ond y mae’n dal heb gymryd y camau eraill sy’n ofynnol gan y Rhan hon neu Ran 5, rhaid iddo ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth yn unol â’r cynllun gofal a chymorth a luniwyd gan yr awdurdod anfon, i’r graddau y bydd hynny’n rhesymol ymarferol.

4

Wrth gynnal yr asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), rhaid i’r awdurdod derbyn roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth a ddarperir o dan is-adran (1)(b).

5

Mae’r awdurdod derbyn yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (3) hyd nes y bydd wedi—

a

cyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), a

b

cymryd y camau eraill sy’n ofynnol o dan y Rhan hon neu Ran 5.

6

Caiff rheoliadau—

a

pennu camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i’w fodloni ei hun mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllwyd yn is-adrannau (1) a (2);

b

pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod derbyn roi sylw iddynt wrth benderfynu sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan is-adran (3);

c

pennu achosion pan na fo’r dyletswyddau o dan is-adran (1), (2) neu (3) yn gymwys iddynt.

7

Mae cyfeiriad yn yr adran hon at symud i ardal yn gyfeiriad at symud i’r ardal honno gyda golwg ar breswylio fel arfer yno.