RHAN 4LL+CDIWALLU ANGHENION

Materion atodolLL+C

56Hygludedd gofal a chymorthLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol (“yr awdurdod anfon”) yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae arno ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person hwnnw’n mynd i symud i ardal awdurdod lleol arall (“yr awdurdod derbyn”), ac y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod derbyn ei fod wedi ei fodloni felly, a

(b)darparu’r canlynol i’r awdurdod derbyn—

(i)copi o’r cynllun gofal a chymorth sydd wedi ei lunio ar gyfer y person, a

(ii)unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r person ac, os oes gan y person ofalwr, unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud â’r gofalwr y bydd yr awdurdod derbyn yn gofyn amdani.

(2)Pan fo’r awdurdod derbyn yn cael ei hysbysu gan neu ar ran person y mae ar yr awdurdod anfon ddyletswydd o dan adran 35 neu 37 i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth mewn cysylltiad ag ef fod y person yn mynd i symud i ardal yr awdurdod derbyn, a bod yr awdurdod derbyn wedi ei fodloni bod y symud yn debyg o ddigwydd, rhaid iddo—

(a)hysbysu’r awdurdod anfon ei fod wedi ei fodloni felly,

(b)darparu i’r person, ac os oes gan y person ofalwr, y gofalwr, unrhyw wybodaeth y mae’n barnu ei bod yn briodol,

(c)os plentyn yw’r person, darparu i’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn unrhyw wybodaeth sy’n briodol ym marn yr awdurdod, a

(d)asesu’r person o dan adran 19 (os yw’r person yn oedolyn) neu 21 (os yw’r person yn blentyn), gan roi sylw penodol i unrhyw newid yn anghenion y person am ofal a chymorth sy’n deillio o’r symud.

(3)Os yw’r awdurdod derbyn, ar y diwrnod y mae’r person yn symud i’w ardal, yn dal heb gyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), neu y mae wedi gwneud felly ond y mae’n dal heb gymryd y camau eraill sy’n ofynnol gan y Rhan hon neu Ran 5, rhaid iddo ddiwallu anghenion y person am ofal a chymorth yn unol â’r cynllun gofal a chymorth a luniwyd gan yr awdurdod anfon, i’r graddau y bydd hynny’n rhesymol ymarferol.

(4)Wrth gynnal yr asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), rhaid i’r awdurdod derbyn roi sylw i’r cynllun gofal a chymorth a ddarperir o dan is-adran (1)(b).

(5)Mae’r awdurdod derbyn yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (3) hyd nes y bydd wedi—

(a)cyflawni’r asesiad sy’n ofynnol gan is-adran (2)(d), a

(b)cymryd y camau eraill sy’n ofynnol o dan y Rhan hon neu Ran 5.

(6)Caiff rheoliadau—

(a)pennu camau y mae’n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd i’w fodloni ei hun mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllwyd yn is-adrannau (1) a (2);

(b)pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod derbyn roi sylw iddynt wrth benderfynu sut i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan is-adran (3);

(c)pennu achosion pan na fo’r dyletswyddau o dan is-adran (1), (2) neu (3) yn gymwys iddynt.

(7)Mae cyfeiriad yn yr adran hon at symud i ardal yn gyfeiriad at symud i’r ardal honno gyda golwg ar breswylio fel arfer yno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C2A. 56 cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 32 (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 33, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 56 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)