RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Materion atodol
I1I257Achosion pan fo person yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol
1
Caiff rheoliadau ddarparu—
a
pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 neu adrannau 40 i 45 drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person,
b
pan fo’r person o dan sylw, neu berson o ddisgrifiad penodedig, yn mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, ac
c
pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni,
bod yn rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y llety sy’n cael ei ffafrio.
2
Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i’r person o dan sylw neu berson o ddisgrifiad penodedig dalu rhywfaint neu’r cyfan o’r gost ychwanegol (os oes un) am y llety sy’n cael ei ffafrio mewn achosion neu amgylchiadau penodedig.
3
Yn is-adran (2) ystyr “cost ychwanegol” yw’r gwahaniaeth rhwng—
a
y gost o ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, a
b
y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu wrth drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw i ddiwallu anghenion y person o dan sylw.