Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/03/2021.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 58 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 16 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys—
(a)pan fo anghenion gofal a chymorth person yn cael eu diwallu o dan adran 35, 36, 37 neu 38 mewn ffordd sy’n cynnwys darparu llety [F1, pan fo’n cael ei dderbyn i ysbyty] (neu’r ddau), a
(b)pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol bod perygl o golli neu ddifrodi eiddo symudol y person yn ardal yr awdurdod—
(i)am nad yw’r person yn gallu (p’un ai’n barhaol neu dros dro) gwarchod yr eiddo na delio â’r eiddo, a
(ii)am nad oes trefniadau addas wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.
(2)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i atal neu i leihau’r golled neu’r difrod.
(3)At ddibenion cyflawni’r ddyletswydd honno, caiff yr awdurdod lleol—
(a)ar bob adeg resymol ac ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre yr oedd y person yn byw ynddi yn union cyn bod llety yn cael ei ddarparu iddo neu cyn iddo gael ei dderbyn i ysbyty, a
(b)cymryd unrhyw gamau eraill y mae’n barnu eu bod yn rhesymol angenrheidiol er mwyn atal neu leihau colled neu ddifrod.
(4)Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni cyn cymryd unrhyw gamau o dan is-adran (3)(a) neu (b)—
ACHOS 1 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person—
yn oedolyn neu’n blentyn 16 neu 17 oed a chanddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd, neu
yn blentyn o dan 16 oed a chanddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd,
rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad y person i’r camau gael eu cymryd;
ACHOS 2 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn oedolyn nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—
rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran yr oedolyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu
os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni y byddai cymryd y camau er lles pennaf yr oedolyn;
ACHOS 3 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn 16 neu 17 oed nad oes ganddo alluedd i gydsynio i’r camau gael eu cymryd—
rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i roi cydsyniad ar ran y plentyn, os oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, neu
os nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi felly, rhaid i’r awdurdod lleol gael cysyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;
ACHOS 4 - pan fo’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y person yn blentyn o dan 16 oed nad oes ganddo ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch a gydsynia i’r camau gael eu cymryd, rhaid i’r awdurdod lleol gael cydsyniad i’r camau gael eu cymryd a’r cydsyniad hwnnw gan berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(5)Rhaid i’r awdurdod lleol gymryd camau rhesymol i gael unrhyw gydsyniad y gall fod ei angen o dan is-adran (4).
(6)Pan na all yr awdurdod lleol sicrhau bod y gofynion yn is-adran (4) wedi eu bodloni, mae dyletswydd yr awdurdod lleol o dan is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys.
(7)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.
(8)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (3)(a) neu (b)—
(a)yn cyflawni trosedd, a
(b)yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
(9)Caiff awdurdod lleol adennill unrhyw dreuliau rhesymol y mae’n eu tynnu o dan yr adran hon mewn perthynas ag eiddo symudol oedolyn oddi wrth yr oedolyn hwnnw.
(10)Gellir adennill yn ddiannod fel dyled sifil swm y gellir ei adennill o dan is-adran (9) (ond nid yw hynny’n effeithio ar unrhyw ddull arall o’i adennill).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 58(1)(a) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 298
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 58 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: