RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL
Codi ffioedd am ddiwallu anghenion
I2I160Personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt
1
Mae’r adran hon yn disgrifio’r personau y caniateir i ffioedd gael eu gosod arnynt o dan adran 59.
2
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion oedolyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod ar yr oedolyn hwnnw.
3
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu gofal a chymorth i ddiwallu anghenion plentyn, neu ar gyfer sefydlu’r trefniadau ar gyfer y gofal a’r cymorth hwnnw, gael ei gosod—
a
pan fo’r gofal a chymorth yn cael eu darparu i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw;
b
pan fo anghenion y plentyn am ofal a chymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu rhywbeth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw.
4
Caniateir i ffi am ddarparu neu drefnu i ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion gofalwr, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod—
a
pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n oedolyn, ar y gofalwr hwnnw;
b
pan fo’r cymorth yn cael ei ddarparu i ofalwr sy’n blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr hwnnw;
ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (5).
5
Pan fo anghenion gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i berson y mae’r gofalwr yn darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal iddo, nid yw is-adran (4) yn gymwys; caniateir i ffi am ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y cymorth hwnnw, neu am sefydlu’r trefniadau ar gyfer y cymorth hwnnw, gael ei gosod yn lle hynny—
a
pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i oedolyn, ar yr oedolyn hwnnw;
b
pan fo anghenion y gofalwr am gymorth yn cael eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i blentyn, ar oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn hwnnw.