RHAN 5CODI FFIOEDD AC ASESIADAU ARIANNOL

Codi ffioedd am ddiwallu anghenion

61Rheoliadau ynghylch arfer pŵer i osod ffi

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer ac mewn cysylltiad ag arfer pŵer i osod ffi o dan adran 59.

(2)

Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(1); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny drwy, er enghraifft—

(a)

pennu uchafswm y caniateir ei osod am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath, neu fformiwla neu ddull i ddyfarnu’r uchafswm hwnnw;

(b)

ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol bennu ffi am ofal a chymorth, neu (yn achos gofalwyr) gymorth, o fath penodedig neu gyfuniad penodedig o bethau o’r fath drwy gyfeirio at gyfnod amser penodedig;

(c)

pennu, yn achos ffi y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (a), uchafswm y caniateir ei osod, neu fformiwla neu ddull i benderfynu’r uchafswm hwnnw.

(3)

Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth am swm y ffi y caniateir ei gosod o dan adran 59(3); a chaiff y rheoliadau (gan ddibynnu ar adran 196(2)) wneud hynny, er enghraifft, drwy bennu uchafswm y caniateir ei osod am sefydlu trefniadau—

(a)

mewn amgylchiadau penodedig, neu

(b)

ar gyfer personau o ddisgrifiad penodedig.