Print Options
PrintThe Whole
Act
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Adran 73
Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/05/2018.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 73 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ionawr 2025. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
73Adolygiadau sy’n ymwneud â chodi ffioeddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer adolygu, neu’n gysylltiedig ag adolygu—
(a)ffioedd a osodir o dan adran 59,
(b)dyfarniadau a wneir o dan adran 66, a
(c)penderfyniadau sy’n ymwneud ag atebolrwydd trosglwyddai i dalu swm i awdurdod lleol o dan adran 72.
(2)Caiff y rheoliadau wneud (ymhlith pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch y canlynol—
(a)y personau a gaiff ofyn am adolygiad (ar eu rhan hwy eu hunain neu ar ran person arall);
(b)o dan ba amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir gofyn am adolygiad;
(c)o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid i gais gael ei wneud;
(d)y weithdrefn sydd i’w dilyn, a’r camau sydd i’w cymryd, mewn cysylltiad ag adolygiad;
(e)y disgrifiad o’r personau a gaiff wneud penderfyniad yn dilyn yr adolygiad;
(f)effaith penderfyniad o’r math hwnnw.
Back to top