RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
Canlyniadau llesiant
I2I18Dyletswydd i ddyroddi datganiad ynghylch y canlyniadau sydd i’w sicrhau
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi datganiad sy’n ymwneud â llesiant—
a
pobl yng Nghymru y mae arnynt angen gofal a chymorth, a
b
gofalwyr yng Nghymru y mae arnynt angen cymorth.
2
Rhaid dyroddi’r datganiad o fewn 3 blynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
3
Rhaid i’r datganiad bennu’r canlyniadau sydd i’w sicrhau, o ran llesiant y bobl a grybwyllwyd yn is-adran (1), drwy—
a
gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon, a
b
gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth) a ddarperir gan eraill sydd o fath y gellid eu darparu gan awdurdodau lleol o dan y Ddeddf hon.
4
Rhaid i’r datganiad hefyd bennu mesurau y mae graddau sicrhau’r canlyniadau hynny i’w hasesu drwy gyfeirio atynt.
5
Caiff y datganiad bennu gwahanol ganlyniadau neu fesurau ar gyfer gwahanol gategorïau o bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth (neu, yn achos gofalwyr, cymorth).
6
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r datganiad yn gyson a chânt ddiwygio’r datganiad pa bryd bynnag y maent yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
7
Cyn dyroddi neu ddiwygio’r datganiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
8
Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth ddyroddi neu ddiwygio’r datganiad—
a
gosod copi o’r datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
b
cyhoeddi’r datganiad ar eu gwefan.