RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal
I188Rheoliadau ynghylch amodau lle y caniateir i blentyn sydd mewn gofal fyw gyda rhiant etc
Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, osod gofynion ar awdurdod lleol ynghylch—
a
gwneud unrhyw benderfyniad i ganiatáu i blentyn sydd yn ei ofal i fyw gydag unrhyw berson sy’n dod o fewn adran 81(3) (gan gynnwys gofynion o ran y rheini y mae’n rhaid ymgynghori â hwy cyn gwneud y penderfyniad a’r rheini y mae’n rhaid eu hysbysu pan fydd y penderfyniad wedi ei wneud);
b
goruchwylio neu gynnal ymchwiliad meddygol ar y plentyn o dan sylw;
c
symud y plentyn, o dan y fath amgylchiadau a gaiff eu pennu mewn rheoliadau, o ofal y person y rhoddwyd caniatâd i’r plentyn fyw gydag ef;
d
y cofnodion sydd i’w cadw gan yr awdurdod lleol.