RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal
I1I289Rheoliadau ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllir yn adran 81(6)(d)
1
Caiff rheoliadau o dan adran 87, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch lleoliadau o’r math a grybwyllwyd yn adran 81(6)(d).
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—
a
y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw drefniadau arfaethedig;
b
y cyfleoedd y mae personau o’r fath i’w cael er mwyn cyflwyno sylwadau mewn perthynas â’r trefniadau arfaethedig;
c
y personau sydd i’w hysbysu am unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau;
d
y cofnodion sydd i’w cadw gan awdurdodau lleol;
e
goruchwyliaeth gan awdurdodau lleol ar unrhyw drefniadau a wneir.