RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA
Rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal
I2I191Rheoliadau ynghylch osgoi amharu ar addysg
1
F21A
Yn is-adran (1), ystyr “plentyn perthnasol” yw plentyn—
a
sy’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir,
b
sydd wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn nosbarth y plentyn 14 oed ynddi, ac
c
sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.
2
F4Mae plentyn “yng nghyfnod allweddol pedwar” os yw’n ddisgybl yng nghyfnod allweddol pedwar (“the fourth key stage”) at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002 (gweler adran 103 o’r Ddeddf honno).
F4Yn is-adran (1A)—
a
mae i “disgybl”, “blwyddyn ysgol” ac “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “pupil”, “school year” a “compulsory school age” yn Neddf Addysg 1996;
b
mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir gan adran 79 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
c
ystyr “dosbarth y plentyn” yw—
i
y grŵp addysgu yr addysgir y plentyn ynddo yn rheolaidd yn yr ysgol, neu
ii
pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth ysgol y plentyn.