(1)Caiff rheoliadau o dan adran 87 wneud darpariaeth, er enghraifft—
(a)ar gyfer sicrhau nad yw plentyn yn cael ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol [F1neu bersonau eraill] oni bai bod y person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo am y tro fel rhiant maeth awdurdod lleol gan yr awdurdod lleol a bennir;
(b)sy’n sefydlu gweithdrefn sy’n caniatáu i unrhyw berson, y gwnaed dyfarniad cymhwysol mewn cysylltiad ag ef, wneud cais o dan y weithdrefn honno am adolygiad o’r dyfarniad hwnnw gan banel a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae dyfarniad yn ddyfarniad cymhwysol—
(a)os yw’n ymwneud â chwestiwn ynghylch a ddylai person gael ei gymeradwyo, neu a ddylai barhau i gael ei gymeradwyo, fel rhiant maeth awdurdod lleol, a
(b)os yw o ddisgrifiad a bennir.
(3)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b) gynnwys darpariaeth o ran—
(a)dyletswyddau a phwerau panel;
(b)gweinyddiaeth a gweithdrefnau panel;
(c)penodi aelodau panel (gan gynnwys nifer, neu unrhyw gyfyngiad ar nifer, yr aelodau y caniateir i’w penodi, ac unrhyw amodau ar gyfer eu penodi);
(d)talu ffioedd i aelodau panel;
(e)dyletswyddau unrhyw berson mewn cysylltiad ag adolygiad a gynhelir o dan y rheoliadau;
(f)monitro unrhyw adolygiadau o’r fath.
(4)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (3)(e) osod dyletswydd i dalu i Weinidogion Cymru y cyfryw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ei ddyfarnu; ond ni chaniateir gosod dyletswydd o’r fath ar berson sydd wedi gwneud cais i gael adolygiad o ddyfarniad cymhwysol.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, drwy gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall, nad yw agregiad y symiau sy’n dod yn daladwy iddynt o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (4) y tu hwnt i’r gost o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru wneud trefniant gyda sefydliad lle y bydd y sefydliad hwnnw’n cyflawni swyddogaethau adolygu annibynnol ar eu rhan.
(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud trefniant o’r fath gyda sefydliad, rhaid i’r sefydliad gyflawni ei swyddogaethau o dan y trefniant yn unol ag unrhyw gyfarwyddyd cyffredinol neu arbennig a roddir gan Weinidogion Cymru.
(8)Caiff y trefniant gynnwys darpariaeth bod y sefydliad yn derbyn taliadau gan Weinidogion Cymru.
(9)Rhaid i daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaeth o’r fath gael eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu (at ddiben is-adran (5)) y gost i Weinidogion Cymru o gyflawni eu swyddogaethau adolygu annibynnol.
(10)O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (7)—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach.
(11)Yn yr adran hon—
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
mae “sefydliad” (“organisation”) yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol, corff cyhoeddus a sefydliad preifat neu wirfoddol;
ystyr “swyddogaeth adolygu annibynnol” (“independent review function”) yw swyddogaeth a roddir neu a osodir ar Weinidogion Cymru drwy reoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(b).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 93(1)(a) wedi eu mewnosod (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 302
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)