RHAN 6PLANT SY’N DERBYN GOFAL A PHLANT SY’N CAEL EU LLETYA

F1Rheoleiddio swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

Annotations:

94ARheoleiddio’r arferiad o swyddogaethau awdurdodau lleol sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr arferiad gan awdurdodau lleol o swyddogaethau a roddir iddynt gan—

a

adran 81 (y ffyrdd y mae plant sy’n derbyn gofal i’w lletya a’u cynnal), neu

b

rheoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) sy’n gwneud darpariaeth megis yr hyn a grybwyllir yn adran 92(1), 93 neu 94.

2

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft, gynnwys darpariaeth—

a

o ran y personau sy’n addas i weithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

b

o ran addasrwydd y mangreoedd sydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol wrth arfer y swyddogaethau hynny,

c

o ran rheoli’r arferiad o’r swyddogaethau hynny a’r rheolaeth ar arfer y swyddogaethau hynny,

d

o ran nifer y personau, neu bersonau o fath penodol, sy’n gweithio i awdurdodau lleol mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny,

e

o ran rheoli a hyfforddi’r personau hynny, ac

f

o ran y ffioedd neu’r treuliau y caniateir iddynt gael eu talu i bersonau sy’n helpu awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau wrth arfer y swyddogaethau hynny.

3

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(a), yn benodol, wneud darpariaeth sy’n pennu nad yw person yn addas i weithio i awdurdod lleol mewn unrhyw swydd a bennir os nad yw’r person wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol), neu mewn rhan benodol o’r gofrestr honno.