RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Darparu cyngor a hybu gyrfaoedd
7Darparu cyngor gan y Cyngor
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor ddarparu cyngor—
a
iddynt hwy ar—
i
mater perthnasol, neu
ii
unrhyw fater arall sy’n ymwneud ag addysgu neu ddysgu, a
b
i berson arall ar fater perthnasol.
2
At ddibenion yr adran hon, y “materion perthnasol” yw—
a
safonau gwasanaethau a ddarperir gan bersonau cofrestredig;
b
safonau ymddygiad ar gyfer personau cofrestredig;
c
addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer;
d
rolau’r proffesiynau a gynrychiolir yn y categorïau cofrestru;
e
statws pob un o’r proffesiynau hynny;
f
hyfforddi, datblygu gyrfa a rheoli perfformiad personau cofrestredig;
g
recriwtio personau cofrestredig ym mhob categori cofrestru a’u cadw;
h
y cyflenwad o bersonau cofrestredig.
3
Caiff y Cyngor hefyd ddarparu unrhyw gyngor sy’n briodol yn ei farn ef ar faterion perthnasol i unrhyw bersonau y mae’n penderfynu arnynt.
4
Rhaid i’r Cyngor hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, bob dau fis, am unrhyw gyngor sydd wedi ei roi ganddo ar faterion perthnasol yn ystod y ddau fis blaenorol, ac am y sawl a gafodd y cyngor hwnnw.
5
Rhaid i gyngor a roddir o dan yr adran hon mewn perthynas â materion perthnasol fod o natur gyffredinol.
6
Caiff y Cyngor, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, gyhoeddi unrhyw gyngor a roddir ganddo o dan yr adran hon.
8Hybu gyrfaoedd
1
Rhaid i’r Cyngor ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru gyda’r bwriad o hybu gyrfaoedd, a datblygiad gyrfaoedd, yn y proffesiynau cofrestradwy yng Nghymru.
2
Caiff y gweithgareddau gofynnol hynny gynnwys, yn benodol—
a
rhoi cyngor;
b
trefnu cynadleddau a darlithoedd;
c
cyhoeddi deunyddiau hybu.
3
At ddibenion adran 4(1)(b) a’r adran hon, mae’r cyfeiriad at yrfaoedd yn y proffesiynau cofrestradwy yn gyfeiriad at yrfaoedd sy’n darparu’r gwasanaethau a ddisgrifir mewn perthynas â chategori cofrestru (er enghraifft, addysgu).