ATODLEN 1CYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddog cyfrifyddu
18
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi person i weithredu fel swyddog cyfrifyddu’r Cyngor.
(2)
Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Cyngor, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.
(3)
Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae cyfrifoldebau—
(a)
mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;
(b)
am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Cyngor;
(c)
am sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Cyngor ddefnyddio ei adnoddau;
(d)
sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;
(e)
sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.