Pwyllgor archwilio: aelodaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
20(1)Mae’r pwyllgor archwilio i gynnwys—
(a)o leiaf ddau aelod o’r Cyngor, a
(b)o leiaf un aelod lleyg.
(2)Ni chaiff aelod-gadeirydd y Cyngor fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.
(3)Caiff y Cyngor dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau i aelod lleyg y mae’n penderfynu arnynt.
(4)Rhaid i’r Cyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.
(5)Yn y paragraff hwn ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson nad yw’n aelod o’r Cyngor nac yn gyflogai iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(u)