ATODLEN 2CATEGORÏAU COFRESTRU
1
Mae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Athro neu athrawes ysgol | Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol | Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran14(1)(a)(ii) ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol. |
Athro neu athrawes addysg bellach | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach | Person, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach, sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
2Newid categorïau gweithiwr cofrestredig
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.
2
Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.
3
Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—
a
yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a
b
wedi ei gofrestru.
4
Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—
a
un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu
b
yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.
5
Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—
a
meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;
b
cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;
c
cydymffurfio ag amod penodedig;
d
arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.
6
Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
7
Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.
3Dehongli
Yn yr Atodlen hon, ystyr “ysgol” yw—
a
ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;
b
ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.