ATODLEN 2CATEGORÏAU COFRESTRU

1

Mae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.

TABL 1

Categori

Disgrifiad

Athro neu athrawes ysgol

Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran14(1)(a)(ii) ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.

Athro neu athrawes addysg bellach

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach

Person, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach, sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.