1LL+CMae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.
TABL 1
Categori | Disgrifiad |
---|---|
Athro neu athrawes ysgol | Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol | [F1Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.] |
Athro neu athrawes addysg bellach | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach | Person F2... sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru. |
[F3Gweithiwr ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd— (a) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (b) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Gweithiwr cymorth ieuenctid | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd– (c) yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu (d) fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw. |
Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith. ] |
[F4Athro neu athrawes ysgol annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.] |
[F5Ymarferydd dysgu oedolion | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol. |
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.] |
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu hamnewid (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(a)
F2Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu hepgor (22.5.2023) yn rhinwedd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(b)
F3Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu mewnosod (1.3.2017) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 (O.S. 2016/1183), erglau. 1(2), 8(2)
F4Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Tabl 1 wedi eu mewnosod (22.5.2023) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/551), erglau. 1(2), 11(2)(c)
F5Geiriau yn Atod. 2 para. 1 Table 1 wedi eu mewnosod (10.5.2024) gan Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/613), erglau. 1(2), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 16.1.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/29, ergl. 2(z)
I3Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.1.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1688, ergl. 2(c)