Deddf Addysg (Cymru) 2014

Deddf Addysg 2002 (p. 32)LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

1(1)Mae Deddf 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 32 (cyfrifoldeb am bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac am bennu amserau sesiynau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ar ôl “school” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9),”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)ar ôl “school” y tro cyntaf y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9)”;

(c)hepgorer is-adrannau (5) i (10);

(d)yn unol â hynny, pennawd adran 32 bellach fydd “Responsibility for fixing dates of terms and holidays and times of sessions: England”.

(3)Yn adran 131(1) (gwerthuso athrawon ysgol), ar ôl “teachers” mewnosoder “in England”.

(4)Yn adran 132 (statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig), yn lle “General Teaching Council for Wales” rhodder “Education Workforce Council”.

(5)Yn adran 133(1) (gofyniad i fod yn gymwysedig), ar ôl “school” mewnosoder “in England”.

(6)Yn adran 210(6A) (gorchmynion a rheoliadau), yn lle “32(9)” rhodder “32C(5)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50

I2Atod. 3 para. 1(1)(2)(6) mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(d)

I3Atod. 3 para. 1(1)(2)(6) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(w)

I4Atod. 3 para. 1(4)(5) mewn grym ar 1.4.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 3(w)