ATODLEN 1CYNGOR Y GWEITHLU ADDYSG

(cyflwynwyd gan adran 2(2))

I1I501Statws

1

O ran y Cyngor,—

a

nid yw’n was nac yn asiant i’r Goron, a

b

nid oes ganddo statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

2

Nid yw eiddo’r Cyngor yn eiddo i’r Goron nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

I2I512Pwerau

1

Caiff y Cyngor wneud unrhyw beth a fwriedir i hwyluso cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu sy’n gysylltiedig â hynny neu’n ffafriol i hynny.

2

Yn benodol, caiff y Cyngor—

a

caffael a gwaredu tir neu eiddo arall;

b

ymrwymo i gontractau;

c

buddsoddi symiau nad oes eu hangen ar unwaith at ddiben cyflawni ei swyddogaethau;

d

derbyn rhoddion o arian, tir neu eiddo arall;

e

ffurfio cyrff corfforaethol neu gysylltiedig neu gyrff eraill nad ydynt yn gyrff corfforaethol;

f

ymrwymo i fentrau ar y cyd â phersonau eraill;

g

tanysgrifio am gyfranddaliadau a stoc;

h

cael benthyg arian.

I33Aelodaeth

I31I411

Mae’r Cyngor i gael 14 o aelodau.

I31I412

Ond caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r paragraff hwn drwy orchymyn i bennu bod y Cyngor i gael—

I31I41a

nifer gwahanol o aelodau, neu

I31I41b

isafswm ac uchafswm penodedig o aelodau.

I31I413

Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau.

I31I414

Wrth i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw swyddogaeth mewn perthynas ag aelodaeth y Cyngor, rhaid iddynt—

I31I41a

rhoi sylw i ddymunoldeb sicrhau bod yr aelodaeth honno yn cynnwys personau â’r profiad a’r sgiliau y mae eu hangen i alluogi’r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, a

I46b

sicrhau bod y mwyafrif o aelodau’r Cyngor yn bersonau cofrestredig, neu wedi bod yn bersonau cofrestredig yn ddiweddar.

I31I415

Mae aelodau i weithredu fel unigolion (hynny yw, nid ydynt i weithredu fel cynrychiolwyr unrhyw sefydliad neu gorff y gallant fod yn perthyn iddo, nac unrhyw berson, sefydliad neu gorff sydd wedi eu henwebu).

I4I334Aelodaeth: darpariaeth bellach

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynglŷn ag aelodau a’u penodi.

2

Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn, yn benodol, gynnwys darpariaeth am—

a

cymhwystra person i gael ei benodi;

b

y weithdrefn benodi;

c

llenwi unrhyw leoedd gwag yn yr aelodaeth sy’n codi ac eithrio ar ddiwedd tymor swydd aelod.

3

Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

I5I345Deiliadaeth

1

Tymor swydd aelod yw unrhyw gyfnod hyd at 5 mlynedd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu wrth benodi’r aelod hwnnw.

2

Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor.

I6I356Diswyddo

1

Caniateir i aelod gael ei ddiswyddo drwy bleidlais fwyafrifol gan yr aelodau eraill os yw’r aelod, heb reswm dilys—

a

wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod o’r Cyngor yn olynol, neu

b

wedi bod yn absennol o gyfarfodydd am gyfnod o 6 mis neu fwy, gan ddechrau ar y dyddiad yr aeth yr aelod i gyfarfod o’r Cyngor ddiwethaf.

2

Cyn i unrhyw bleidlais gael ei chymryd i ddiswyddo aelod, rhaid i’r aelod gael cyfle i wneud sylwadau llafar i’r Cyngor.

3

Bydd person yn peidio â bod yn aelod—

a

os yw’r person wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir yn ymwneud â phlant o fewn ystyr adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;

b

os yw’r person wedi ei wahardd rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes yn rhinwedd gorchymyn gwahardd o dan adran 141B o Ddeddf 2002;

c

os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 yn rhinwedd gorchymyn disgyblu a wneir mewn cysylltiad â’r person hwnnw o dan adran 26;

d

os yw’r person wedi ei anghymwyso rhag cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn unrhyw ysgol yn rhinwedd gorchymyn wedi ei wneud—

i

gan Dribiwnlys Ysgolion Annibynnol o dan adran 470 o Ddeddf 1996, neu

ii

gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 471 o’r Ddeddf honno; neu

e

os yw’r person yn dod yn anghymwys i’w gofrestru fel athro neu athrawes, neu wedi ei anghymwyso rhag bod yn athro neu athrawes mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach, mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.

I7I367Tâl, lwfansau a threuliau aelodau

1

Caiff y Cyngor—

a

talu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau y mae’n penderfynu arnynt i’w aelodau, a

b

talu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw symiau fel pensiwn, lwfans ac arian rhodd i aelod, neu mewn cysylltiad ag aelod, y mae’n penderfynu arnynt.

2

Os yw person yn peidio â bod yn aelod o’r Cyngor a’i bod yn ymddangos i’r Cyngor bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn briodol i’r person hwnnw dderbyn digollediad, caiff y Cyngor wneud taliad o unrhyw swm y mae’n penderfynu arno i’r person hwnnw.

3

Caiff y Cyngor dalu unrhyw dreuliau a lwfansau y mae’n penderfynu arnynt i aelodau unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

4

Caiff y Cyngor dalu i gyflogwr person sy’n aelod o’r Cyngor (neu berson nad yw’n aelod o’r Cyngor ond sy’n aelod o unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau) unrhyw ddigollediad y mae’n penderfynu arno mewn cysylltiad â cholli gwasanaethau’r person hwnnw.

I8I528Aelod-gadeirydd

1

Rhaid i’r Cyngor ethol aelod-gadeirydd o blith ei aelodaeth.

2

Mae’r aelod-gadeirydd i ddal y swydd am unrhyw gyfnod y mae’r Cyngor yn penderfynu arno.

3

Caiff yr aelod-gadeirydd—

a

ymddiswyddo fel aelod-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i brif swyddog y Cyngor, a

b

cael ei ddiswyddo fel aelod-gadeirydd drwy bleidlais â mwyafrif o ddwy ran o dair gan yr aelodau eraill.

I99Prif swyddog a staff eraill

I32I421

Rhaid i’r Cyngor gael prif swyddog.

I32I422

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch penodi prif swyddog, gan gynnwys, yn benodol—

a

pennu pwy sydd i benodi’r prif swyddog;

b

y weithdrefn ar gyfer y penodiad hwnnw;

c

sut y mae telerau ac amodau’r prif swyddog (gan gynnwys tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) i gael eu penderfynu.

I32I423

Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

a

cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw god ymarfer sy’n ymwneud â phenodiadau i gyrff cyhoeddus, neu

b

gwneud darpariaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw god o’r fath.

I434

Caiff y Cyngor benodi unrhyw gyflogeion eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

I435

Mae cyflogeion (ac eithrio’r prif swyddog) i gael eu penodi ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl, lwfansau, treuliau a phensiynau) y mae’r Cyngor yn penderfynu arnynt.

I436

Caiff y Cyngor—

a

talu pensiynau neu arian rhodd, neu wneud taliadau mewn cysylltiad â hwy, i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy;

b

darparu a chynnal cynlluniau (p’un a ydynt yn gyfrannol ai peidio) ar gyfer talu pensiynau ac arian rhodd i gyflogeion neu gyn-gyflogeion neu mewn cysylltiad â hwy.

I437

Mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at bensiynau ac arian rhodd yn cynnwys cyfeiriadau at bensiynau ac arian rhodd i ddigolledu cyflogeion sy’n colli cyflogaeth neu sy’n dioddef colled neu leihad o ran enillion, neu mewn cysylltiad â’r cyflogeion hynny.

I438

Os—

a

yw unrhyw berson, ar beidio â bod yn gyflogedig gan y Cyngor, yn dod yn aelod o’r Cyngor, neu’n parhau i fod yn aelod o’r Cyngor, a

b

oedd y person hwnnw, drwy gyfeirio at ei gyflogaeth, yn gyfranogwr mewn cynllun pensiwn a gynhelir gan y Cyngor,

caiff y Cyngor wneud darpariaeth i’r person hwnnw barhau i gyfranogi yn y cynllun hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau y mae’n penderfynu arnynt, fel pe bai gwasanaeth y person fel aelod yn wasanaeth fel cyflogai; ac nid yw unrhyw ddarpariaeth o’r fath i ragfarnu paragraff 7.

I10I5310Cynlluniau yn ymwneud â thâl etc

1

Rhaid i’r Cyngor—

a

llunio cynllun sy’n nodi ei ddull o benderfynu ar y symiau y caiff eu talu—

i

i aelodau o dan baragraff 7, a

ii

i gyflogeion o dan baragraff 9 (gan gynnwys y prif swyddog os yw rheoliadau a wneir o dan baragraff 9(2)(c) yn gwneud hynny’n ofynnol), a

b

cyflwyno’r cynllun i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

2

Dim ond yn unol â chynllun y mae Gweinidogion Cymru wedi ei gymeradwyo o dan y paragraff hwn y caiff y Cyngor benderfynu ar y symiau y mae’n eu talu i aelodau a chyflogeion.

3

Rhaid i’r Cyngor gyhoeddi cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru yn y modd y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu.

4

Caiff y Cyngor ddiwygio’r cynllun o bryd i’w gilydd (ac os felly, mae is-baragraffau (1)(b), (2) a (3) yn gymwys i’r cynllun diwygiedig hwnnw).

I11I4811Cymhwystra ar gyfer y cynllun blwydd-daliadau

1

Mae cyflogaeth gyda’r Cyngor ymhlith y mathau o gyflogaeth y gall cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau blwydd-daliadau o ran gweision sifil ac ati) fod yn gymwys iddi.

2

Rhaid i’r Cyngor dalu i Weinidog y Gwasanaeth Sifil, ar unrhyw adegau a gyfarwyddir gan y Gweinidog, unrhyw symiau y mae’r Gweinidog yn penderfynu arnynt mewn cysylltiad â’r cynnydd sydd i’w briodoli i is-baragraff (1) yn y symiau sy’n daladwy o’r arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig o dan y Ddeddf honno.

3

Pan fo cyflogai’r Cyngor, drwy gyfeirio at y gyflogaeth honno, yn gyfranogwr mewn cynllun o dan adran 1 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 a hefyd yn aelod o’r Cyngor, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol benderfynu bod gwasanaeth y person fel aelod i gael ei drin at ddibenion y cynllun fel gwasanaeth fel cyflogai (p’un a oes budd-daliadau yn daladwy iddo neu mewn cysylltiad ag ef yn rhinwedd paragraff 7 ai peidio).

I12I3712Pwyllgorau’n gyffredinol

1

O ran y Cyngor,—

a

caiff sefydlu pwyllgorau at unrhyw ddiben, a

b

os yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru yn gwneud hynny’n ofynnol, rhaid iddo sefydlu unrhyw bwyllgorau at unrhyw ddibenion a bennir yn y rheoliadau;

(ond gweler hefyd baragraffau 19 ac 20).

2

Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y Cyngor,—

a

caiff benderfynu ar nifer yr aelodau y mae pwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn i’w cael, a

b

rhaid iddo benderfynu ar y telerau y mae’r aelodau hynny i fod yn y swydd a gadael y swydd yn unol â hwy.

3

Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) wneud darpariaeth ynghylch—

a

aelodaeth pwyllgor a sefydlir o dan y rheoliadau;

b

y telerau y mae aelodau’r pwyllgor hwnnw i adael y swydd yn unol â hwy;

c

gweithdrefn y pwyllgor hwnnw.

4

Caiff rheoliadau o dan is-baragraff (1)(b) hefyd awdurdodi’r Cyngor i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw fater y caniateir i ddarpariaeth gael ei gwneud gan y rheoliadau hynny mewn perthynas â hi.

5

Yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan reoliadau sydd wedi eu gwneud o dan is-baragraff (1)(b), caiff y Cyngor gynnwys ar bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o’r Cyngor.

I13I5413Dirprwyo swyddogaethau

1

Caiff y Cyngor awdurdodi’r aelod-gadeirydd neu unrhyw bwyllgor sydd wedi ei sefydlu o dan baragraff 12 i arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau y mae’n penderfynu arnynt.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar—

a

cyfrifoldeb y Cyngor am arfer y swyddogaethau dirprwyedig, neu

b

gallu’r Cyngor i arfer y swyddogaethau dirprwyedig.

I14I5514Trafodion

1

Caiff y Cyngor reoleiddio ei weithdrefn ei hun a gweithdrefn unrhyw un neu ragor o’i bwyllgorau (ac eithrio i’r graddau y mae’r Atodlen hon neu reoliadau a wneir oddi tani yn darparu fel arall).

2

Nis effeithir ar ddilysrwydd trafodion y Cyngor gan—

a

unrhyw swyddi gwag o ran ei aelodau;

b

unrhyw ddiffyg wrth benodi aelod;

c

anghymwyso person fel aelod ar ôl ei benodi.

3

Rhaid i’r Cyngor roi unrhyw gopïau o unrhyw ddogfennau a ddosberthir i’w aelodau neu ei bwyllgorau i Weinidogion Cymru y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

I15I5615Gosod y sêl

Mae’r weithred o osod sêl y Cyngor i gael ei dilysu drwy lofnod—

a

yr aelod-gadeirydd neu ryw berson arall sydd wedi ei awdurdodi’n gyffredinol neu’n benodol gan y Cyngor i weithredu at y diben hwnnw, a

b

un aelod arall.

I16I5716Profi dogfennau

Mae pob dogfen yr honnir ei bod yn offeryn sydd wedi ei wneud neu ei ddyroddi gan y Cyngor neu ar ei ran ac sydd i gael ei weithredu’n briodol o dan sêl y Cyngor, neu sydd i gael ei lofnodi neu ei weithredu gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Cyngor i weithredu ar ei ran yn hynny o beth, i gael ei derbyn yn dystiolaeth a’i thrin, heb brawf pellach, fel ei bod wedi ei gwneud neu ei dyroddi felly oni ddangosir i’r gwrthwyneb.

I17I5817Cyllid

Caiff Gweinidogion Cymru roi grantiau i’r Cyngor o unrhyw symiau ac yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys o ran ad-dalu) y maent yn penderfynu arnynt.

I18I5918Swyddog cyfrifyddu

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi person i weithredu fel swyddog cyfrifyddu’r Cyngor.

2

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Cyngor, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

3

Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae cyfrifoldebau—

a

mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

b

am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Cyngor;

c

am sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth i’r Cyngor ddefnyddio ei adnoddau;

d

sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

e

sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

I19I6019Pwyllgor archwilio

1

Rhaid i’r Cyngor sefydlu pwyllgor (“pwyllgor archwilio”) i—

a

adolygu materion ariannol y Cyngor a chraffu arnynt,

b

adolygu ac asesu trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol y Cyngor,

c

adolygu ac asesu darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y defnydd sydd wedi ei wneud o adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau’r Cyngor, a

d

gwneud adroddiadau ac argymhellion i’r Cyngor mewn perthynas ag adolygiadau a gynhelir o dan baragraffau (a), (b) neu (c).

2

Rhaid i’r pwyllgor archwilio anfon copïau o’i adroddiadau a’i argymhellion at Weinidogion Cymru.

3

Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut i gyflawni ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn.

I20I6120Pwyllgor archwilio: aelodaeth

1

Mae’r pwyllgor archwilio i gynnwys—

a

o leiaf ddau aelod o’r Cyngor, a

b

o leiaf un aelod lleyg.

2

Ni chaiff aelod-gadeirydd y Cyngor fod yn aelod o’r pwyllgor archwilio.

3

Caiff y Cyngor dalu unrhyw dâl, lwfansau a threuliau i aelod lleyg y mae’n penderfynu arnynt.

4

Rhaid i’r Cyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar y tâl neu’r lwfansau sy’n daladwy i aelod lleyg.

5

Yn y paragraff hwn ystyr “aelod lleyg” yw unrhyw berson nad yw’n aelod o’r Cyngor nac yn gyflogai iddo.

I21I6221Cyfrifon ac archwilio allanol

1

Rhaid i’r Cyngor—

a

cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

b

llunio datganiad o gyfrifon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.

2

Wrth lunio datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Cyngor gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

a

ffurf a chynnwys cyfrifon o’r fath;

b

y dulliau ac egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

3

Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno copi o’i ddatganiad o gyfrifon i—

a

Gweinidogion Cymru, a

b

Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

a

archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

b

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl cyflwyno’r copi o dan is-baragraff (3), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

5

Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.

I22I6322Adroddiadau blynyddol

1

Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Cyngor gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru ar y ffordd y cyflawnwyd ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

3

Caiff y Cyngor gyhoeddi’r adroddiad mewn unrhyw ffordd sy’n briodol yn ei farn ef (gan gynnwys yn electronig).

ATODLEN 2CATEGORÏAU COFRESTRU

(cyflwynwyd gan adran 9(3))

I23I39I651

Mae’r golofn gyntaf yn nhabl 1 yn nodi’r categorïau cofrestru ac mae’r ail golofn yn disgrifio’r categori drwy gyfeirio at y personau sy’n dod oddi mewn iddo.

TABL 1

Categori

Disgrifiad

Athro neu athrawes ysgol

Person sy’n athro cymwysedig neu’n athrawes gymwysedig ac sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) unrhyw wasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14 mewn ysgol.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

F3Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.

Athro neu athrawes addysg bellach

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg (fel y’i diffinnir gan adran 140(3) o Ddeddf 2002) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach

Person F4... sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu), yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a ddisgrifir yn adran 16(2) mewn neu ar ran sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

F1Gweithiwr ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd—

  1. a

    yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

  2. b

    fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau datblygu ieuenctid ac sydd–

  1. a

    yn meddu ar o leiaf un oʼr cymwysterau a bennir fel cymwysterau gweithiwr cymorth ieuenctid mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2, neu

  2. b

    fel arall yn bodloni’r gofynion eraill hynny a bennir mewn gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwnnw.

Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith

Person syʼn darparu (neu syʼn dymuno darparu) gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith.

F5Athro neu athrawes ysgol annibynnol

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru.

Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.

Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.

F9Ymarferydd dysgu oedolion

Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol.

Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach

Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.

I24I642Newid categorïau gweithiwr cofrestredig

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ychwanegu, diwygio neu ddileu categori cofrestru (neu’r disgrifiad o gategori), a chaiff hynny gynnwys, ymhlith pethau eraill, ychwanegu categori cofrestru sy’n ymwneud ag ysgolion annibynnol (o fewn ystyr “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996), a diwygio neu ddileu categori o’r fath.

2

Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud unrhyw ddarpariaeth am y categori cofrestru newydd, neu mewn cysylltiad ag ef, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus ym marn Gweinidogion Cymru.

3

Yn benodol, caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) bennu’r gwasanaethau na chaiff person eu darparu oni bai bod y person—

a

yn bodloni unrhyw ofynion a bennir, a

b

wedi ei gofrestru.

4

Caiff gorchymyn sy’n pennu gwasanaethau at ddibenion is-baragraff (3) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at—

a

un neu ragor o weithgareddau penodedig, neu

b

yr amgylchiadau y cyflawnir gweithgareddau ynddynt.

5

Caiff gofyniad gorchymyn o’r fath ymwneud, yn benodol, â—

a

meddu ar gymhwyster penodedig neu brofiad o fath penodedig;

b

cymryd rhan mewn rhaglen neu gwrs hyfforddi penodedig neu gwblhau rhaglen neu gwrs o’r fath;

c

cydymffurfio ag amod penodedig;

d

arfer disgresiwn gan Weinidogion Cymru, person penodedig arall neu berson arall o ddisgrifiad penodedig.

6

Cyn gwneud gorchymyn o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

7

Caiff gorchymyn a wneir o dan y paragraff hwn addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall.

I25I40F23Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • F10ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;

  • F10ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988;

  • F10ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil neu Weinidogion Cymru;

  • ystyr “dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning”) yw addysg neu hyfforddiant a ddarperir—

    1. a

      ar gyfer personau syʼn 16 oed neu’n hŷn (ni waeth pa un a yw hefyd yn cael ei ddarparu i bersonau o dan 16 oed), a

    2. b

      er mwyn datblygu gwybodaeth a sgiliau syʼn berthnasol i grefft, swydd neu gyflogwr penodol;

  • F6gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;

  • gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;

  • “gwasanaethau datblygu ieuenctid” (“youth development services”) yw gwasanaethau—

    1. a

      a ddarperir yn bennaf i bersonau nad ydynt yn iau nag 11 oed nac yn hŷn na 25 oed, a

    2. b

      syʼn hybu—

      1. i

        datblygu sgiliau neu wybodaeth y personau hynny, neu

      2. ii

        ddatblygiad deallusol, emosiynol neu gymdeithasol y personau hynny;

  • “gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith” (“work based learning practitioner services”) yw—

    1. a

      cydgysylltu a chyflenwi dysgu seiliedig ar waith;

    2. b

      asesu gwybodaeth a sgiliau person sy’n cael (neu sydd ar fin cael) dysgu seiliedig ar waith;

  • F10ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;

  • F10ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

  • F6mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);

  • ystyr “ysgol” (“school”) yw—

    1. a

      ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru;

    2. b

      ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.

  • F6mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.

ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

(cyflwynwyd gan adran 48)

RHAN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

I261Deddf Addysg 2002 (p. 32)

I30I441

Mae Deddf 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I30I442

Yn adran 32 (cyfrifoldeb am bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau ac am bennu amserau sesiynau)—

a

yn is-adran (1)—

i

ar ôl “school” y tro cyntaf a’r ail dro y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

ii

ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9),”;

b

yn is-adran (2)—

i

ar ôl “school” y tro cyntaf y mae’r gair yn ymddangos, mewnosoder “in England”;

ii

ym mharagraff (b), hepgorer “subject to subsections (5) to (9)”;

c

hepgorer is-adrannau (5) i (10);

d

yn unol â hynny, pennawd adran 32 bellach fydd “Responsibility for fixing dates of terms and holidays and times of sessions: England”.

3

Yn adran 131(1) (gwerthuso athrawon ysgol), ar ôl “teachers” mewnosoder “in England”.

I454

Yn adran 132 (statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig), yn lle “General Teaching Council for Wales” rhodder “Education Workforce Council”.

I455

Yn adran 133(1) (gofyniad i fod yn gymwysedig), ar ôl “school” mewnosoder “in England”.

I30I446

Yn adran 210(6A) (gorchmynion a rheoliadau), yn lle “32(9)” rhodder “32C(5)”.

I27I492Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (dccc 1)

Yn Atodlen 4 i Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ym mharagraff 8, yn lle “Atodlen 13 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998” rhodder “reoliadau a wneir o dan adran 31 o Ddeddf Addysg 2002 (rheoli mangreoedd ysgol)”.

RHAN 2DIDDYMIADAU

I28I473

Mae’r deddfiadau a nodir yn y golofn gyntaf wedi eu diddymu i’r graddau a nodir yn yr ail golofn.

TABL 2

Deddfiad

Graddau’r diddymiad

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30)

Adrannau 1 i 15.

Adran 19.

Atodlen 1.

Atodlen 2.

Deddf Addysg 2002 (p. 32)

Adran 131(7).

Adran 134.

I29I38ATODLEN 4MYNEGAI O EIRIAU AC YMADRODDION WEDI EU DIFFINIO

(cyflwynwyd gan adran 1)

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 4 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(a)

I38

Atod. 4 mewn grym ar 16.1.2015 gan O.S. 2015/29, ergl. 2(aa)

I29I38O ran y geiriau a’r ymadroddion yng ngholofn gyntaf tabl 3—

a

mae’r geiriau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol wedi eu nodi yn yr ail golofn, a

b

maent wedi eu diffinio gan neu maent, yn ôl y digwydd, i gael eu dehongli yn unol â’r darpariaethau yn y Ddeddf hon sydd wedi eu rhestru yn y drydedd golofn.

TABL 3

Gair neu ymadrodd

Gair neu ymadrodd yn y Saesneg

Darpariaeth berthnasol

Addasu

Modify

Adran 49

Addysg (yn adrannau 15 ac 16)

Education (in sections 15 & 16)

Adrannau 15, 16

F8Addysg bellach

Further education

Atodlen 2

Addysg uwch

Higher education

Atodlen 2

Asiant

Agent

Adran 37

Athro neu athrawes addysg bellach

Further education teacher

Atodlen 2

F7Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Independent special post-16 institution teacher

Atodlen 2

Athro neu athrawes ysgol

School teacher

Atodlen 2

F7Athro neu athrawes ysgol annibynnol

Independent school teacher

Atodlen 2

Blwyddyn ariannol (yn Atodlen 1)

Financial year (in Schedule 1)

Paragraff 21(5) o Atodlen 1

Categori cofrestru

Category of registration

Adran 41(1)

Corff priodol

Appropriate body

Adran 21

Cyflog (yn adran 12)

Salary (in section 12)

Adran 12

Cyflogwr perthnasol

Relevant employer

Adran 36 (4)

Cyfnod sefydlu

Period of induction

Adran 22(3)

Cyngor y Gweithlu Addysg

Education Workforce Council

Adran 2

F8Darparwr dysgu oedolion cymunedol

Community-based adult learning provider

Atodlen 2

Deddf 1996

1996 Act

Adran 49

Deddf 1998

1998 Act

Adran 49

Deddf 2002

2002 Act

Adran 49

Deddf 2013

2013 Act

Adran 49

Deddfiad

Enactment

Adran 49

F7Dysgu seiliedig ar waith

Work based learning

Atodlen 2

Gorchymyn disgyblu

Disciplinary order

Adran 27(2)

F7Gwasanaethau datblygu ieuenctid

Youth development services

Atodlen 2

Gwasanaethau perthnasol

Relevant services

Adran 41

F7Gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith

Work based learning practitioner services

Atodlen 2

Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach

Further education learning support worker

Atodlen 2

F7Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Independent special post-16 institution learning support worker

Atodlen 2

Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol

School learning support worker

Atodlen 2

F7Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol

Independent school learning support worker

Atodlen 2

Gweithiwr cymorth ieuenctid

Youth support worker

Atodlen 2

Gweithiwr ieuenctid

Youth worker

Atodlen 2

Materion perthnasol (yn adran 7)

Relevant matters (in section 7)

Adran 7

F8Oedolyn

Adult

Atodlen 2

Pennaeth perthnasol

Relevant principal

Adran 21

F8Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach

Principal or senior leader in further education

Atodlen 2

Penodedig

Specified

Adran 49

Person cofrestredig

Registered person

Adran 41(1) (gweler hefyd adran 27(1)

Proffesiwn cofrestradwy (yn adrannau 4 ac 8)

Registrable profession (in sections 4 & 8)

Adran 8

Sefydliad addysg bellach

Further education institution

Adran 41(1)

F8Sefydliad addysg uwch

Higher education institution

Atodlen 2

F7Sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol

Independent special post-16 institution

Atodlen 2

Trosedd berthnasol

Relevant offence

Adran 27(1)

Y Cyngor

The Council

Adran 2(1)(b)

Y gofrestr

The register

Adran 41(1)

F8Ymarferydd dysgu oedolion

Adult learning practitioner

Atodlen 2

F7Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith

Work based learning practitioner

Atodlen 2

Ysgol (yn adrannau 14, 23 ac Atodlen 2)

School (in sections 14, 23 & Schedule 2)

Adrannau 14(6), 23(7), paragraff 3 o Atodlen 2

F7Ysgol annibynnol

Independent school

Atodlen 2

Ysgol berthnasol a gynhelir (yn adran 22(3))

Relevant maintained school (in section 22(3))

Adran 22(3)