RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
26Swyddogaethau disgyblu
1
Rhaid i’r Cyngor gynnal unrhyw ymchwiliadau sy’n briodol yn ei farn ef mewn achosion—
a
pan honnir bod person cofrestredig—
i
yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu
ii
wedi ei gollfarnu (ar unrhyw adeg) o drosedd berthnasol, neu
b
pan ymddengys i’r Cyngor y gall person cofrestredig fod yn euog yn y fath fodd neu ei fod wedi ei gollfarnu yn y fath fodd.
2
Rhaid i’r Cyngor benderfynu, ar ôl cynnal ymchwiliad o dan is-adran (1), pa gamau pellach i’w cymryd mewn cysylltiad â’r achos.
3
Y camau y caiff y Cyngor eu cymryd yw—
a
os yw o’r farn nad oes achos i’w ateb, peidio â pharhau â’r achos;
b
os yw o’r farn bod (neu y gall fod) achos i’w ateb—
i
cynnal gwrandawiad mewn cysylltiad â’r achos, neu
ii
gyda chydsyniad y person y mae’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef, penderfynu’r achos heb wrandawiad;
c
peidio â pharhau â’r achos ar ryw sail arall.
4
Pan fo’r Cyngor yn cynnal gwrandawiad neu fod y person wedi cydsynio i’r achos gael ei benderfynu heb wrandawiad, caiff y Cyngor benderfynu—
a
nad oes achos i’w ateb;
b
bod y person yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu ei fod wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol.
5
Pan fo’r Cyngor yn penderfynu bod person—
a
yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol neu anghymhwysedd proffesiynol difrifol, neu
b
wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol,
caiff y Cyngor wneud gorchymyn disgyblu mewn perthynas â’r person hwnnw.
6
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau a roddir i’r Cyngor o dan yr adran hon neu gyfyngu arnynt mewn unrhyw ddull a bennir yn y rheoliadau neu y penderfynir arno oddi tanynt.
7
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (6) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer eithrio unrhyw swyddogaethau sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru neu gyfyngu arnynt gyda’r bwriad o roi ystyriaeth i’r pwerau sy’n arferadwy gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).