RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor
29Gorchmynion cofrestru amodol
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo gorchymyn cofrestru amodol wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.
(2)
O ran y person—
(a)
mae’n parhau yn gymwys i’w gofrestru o dan adran 9, ond
(b)
rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw amodau sy’n berthnasol i gyflogaeth y person fel person cofrestredig a bennir yn y gorchymyn.
(3)
Caiff yr amodau a bennir (ymhlith pethau eraill)—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd unrhyw gamau penodedig a fydd, ym marn y Cyngor, yn helpu’r person i ddod yn berson cofrestredig medrus;
(b)
ymwneud â gwariant ar ran y person.
(4)
Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn cofrestru amodol i gael effaith—
(a)
am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu
(b)
heb derfyn amser.
(5)
Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn cofrestru amodol, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.
(6)
Rhaid i gais o dan is-adran (5) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.