RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG

Swyddogaethau disgyblu’r Cyngor

30Gorchmynion atal dros dro

(1)

Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys pan fo gorchymyn atal dros dro wedi ei wneud mewn perthynas â pherson.

(2)

Rhaid tynnu enw’r person oddi ar y gofrestr (os nad yw ei enw wedi ei dynnu oddi arni eisoes).

(3)

Daw’r person yn anghymwys i’w gofrestru o dan adran 9 am y cyfnod a bennir yn y gorchymyn (nad yw’n fwy na dwy flynedd).

(4)

Caiff gorchymyn atal dros dro bennu amodau i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy ac, yn yr achos hwnnw—

(a)

mae’r person i ddod yn gymwys unwaith eto i’w gofrestru o dan adran 9 ar ddiwedd y cyfnod a bennir o dan is-adran (3) os yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, a

(b)

os nad yw’r person wedi cydymffurfio â’r amodau, mae’r person yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru hyd nes y bydd wedi cydymffurfio â’r amodau.

(5)

Mae unrhyw amod a bennir mewn gorchymyn atal dros dro i gael effaith—

(a)

am unrhyw gyfnod a bennir felly, neu

(b)

heb derfyn amser.

(6)

Ond caiff y Cyngor, ar gais person sydd wedi cael gorchymyn atal dros dro, amrywio neu ddirymu unrhyw amod a bennir yn y gorchymyn.

(7)

Rhaid i gais o dan is-adran (6) gael ei wneud yn unol ag unrhyw reoliadau a wneir at y diben hwnnw o dan adran 28.