RHAN 2Y GWEITHLU ADDYSG
Darpariaeth drosiannol a darfodol
40Materion darfodol sy’n ymwneud â chymhwystra i gofrestru
At ddibenion adran 10(3)—
(a)
mae person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan adran 142(1)(a) o Ddeddf 2002 (gwahardd rhag addysgu etc.) yn parhau yn anghymwys i’w gofrestru, a
(b)
mae cyfeiriad at orchymyn disgyblu o dan y Ddeddf hon yn cynnwys cyfeiriad at orchymyn disgyblu cyfatebol a wnaed o dan Ddeddf 1998.