RHAN 3DARPARIAETH AMRYWIOL
Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol - ymyrryd
44Swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn arferadwy gan y personau a gyfarwyddir
(1)
Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 25 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(4)
Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan y person penodedig.”.
(3)
Yn adran 26 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(4)
Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.”.