xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 25 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan y person penodedig.”.
(3)Yn adran 26 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai), ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(4)Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel petaent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru neu eu henwebai.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50
I2A. 44 mewn grym ar 14.7.2014 gan O.S. 2014/1605, ergl. 2(b)