RHAN 4LL+CDARPARIAETH GYFFREDINOL

46Darpariaeth ategolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu oddi tani neu mewn cysylltiad â hynny.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon addasu’r deddfiad hwn neu unrhyw ddeddfiad arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 50(1)(c)