Search Legislation

Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Gorffennaf 2013 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2014. Fe’u lluniwyd gan Adran Dyfodol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Trosolwg

2.Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y mae’r Ddeddf yn ei wneud. Mae’n amlygu 3

  • agwedd allweddol:

    • sefydlu Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru,

    • gwneud gorchmynion cyflogau amaethyddol sy’n nodi’r telerau a’r amodau ar gyfer gweithwyr amaethyddol, a

    • gorfodi’r telerau a’r amodau sydd yn y gorchmynion hynny.

3.Mae’r sylwebaeth isod yn esbonio pob un o’r darpariaethau hyn yn fwy manwl.

Adran 2 – Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru

4.O dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu panel a elwir Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (“y Panel”). I wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn y bydd rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei basio.

5.Bydd swyddogaethau’r Panel fel y’u nodir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn yn cynnwys o leiaf—

  • hybu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth,

  • llunio gorchmynion cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, ymgynghori ar y gorchmynion hynny a’u cyflwyno i Weinidogion Cymru i’w cymeradwyo,

  • cynghori Gweinidogion Cymru ar faterion eraill a all effeithio ar y sector amaethyddol.

6.Bydd yr ystod hon o swyddogaethau yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod y dasg i’r Panel ystyried sawl mater sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol, megis recriwtio gweithwyr i’r sector a’u cadw, a sut y gellir hybu a chefnogi’r sector.

7.Yn y gorchymyn sy’n sefydlu’r Panel, caiff Gweinidogion Cymru hefyd bennu unrhyw swyddogaethau eraill sy’n angenrheidiol yn eu barn hwy i gefnogi’r sector.

8.Rhaid i’r Panel gynnwys aelod i gadeirio’r Panel ac o leiaf dri, ond dim mwy na deg, aelod ychwanegol.

9.Rhaid i Weinidogion Cymru geisio sicrhau bod aelodaeth y Panel:

  • yn cynnwys pobl sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r Panel i gyflawni ei swyddogaethau yn effeithlon ac yn effeithiol, ac

  • yn adlewyrchu buddiannau pob rhan o’r sector amaethyddol yn ddigonol.

10.Mewn unrhyw orchymyn a wneir sy’n sefydlu’r Panel, caiff Gweinidogion Cymru bennu sut y mae’r Panel yn cael ei gyfansoddi, sut y bydd yn cynnal trafodion, sut y caiff ei aelodau eu penodi a’i bwerau cyffredinol. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ychwanegu at swyddogaethau’r Panel, eu diwygio neu eu dileu.

11.Cyn sefydlu’r Panel, neu wneud unrhyw newidiadau iddo unwaith y mae wedi ei sefydlu, rhaid i Weinidogion Cymru gynnal ymgynghoriad priodol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, undebau’r ffermwyr a chynrychiolwyr eraill y sector, ffermwyr a gweithwyr amaethyddol.

Adran 3 – Gorchmynion cyflogau amaethyddol

12.Bydd gorchymyn cyflogau amaethyddol yn nodi’r telerau ac amodau cyflogaeth y mae rhaid eu cynnig i weithwyr amaethyddol yng Nghymru.

13.Yn benodol, gall bennu—

  • y cyflogau y mae rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (gall hyn amrywio yn unol â chymwysterau a phrofiad y gweithiwr),

  • faint o wyliau y mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i’w cael, a

  • thelerau ac amodau cyflogaeth eraill sy’n berthnasol i’r sector amaethyddol, megis, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol talu lwfans i fugail y mae’n ofynnol iddo gadw cŵn gwaith fel rhan o’i swydd.

14.Ni chaiff unrhyw gyfraddau tâl a bennir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol fod yn is na’r isafswm cyflog cenedlaethol a bennir gan lywodraeth y DU ar gyfer pob gweithiwr.

Adran 4 – Gorchmynion cyflogau amaethyddol: pwerau Gweinidogion Cymru

15.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ôl cael gorchymyn drafft oddi wrth y Panel. Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer hefyd i gyfeirio’r gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno, os teimlir bod hynny’n angenrheidiol.

16.Caiff Gweinidogion Cymru hefyd wneud gorchmynion cyflogau amaethyddol o’u pen a’u pastwn eu hunain, hyd nes bod y Panel wedi ei sefydlu. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ystyried unrhyw newidiadau a wneir i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, pan fo’r newidiadau hynny yn digwydd cyn i’r Panel gael ei sefydlu. Gellid defnyddio’r pŵer hwn, er enghraifft, i bennu isafswm cyflogau amaethyddol uwch, pan fyddai’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol fel arall yn cynyddu y tu hwnt i’r isafswm cyflog amaethyddol.

17.Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu gwneud gorchymyn o’u pen a’u pastwn eu hunain, cyn gwneud hynny, rhaid iddynt ymgynghori â’r personau neu’r cyrff sy’n debygol o fod â buddiant yn y gorchymyn yn eu barn hwy. Yn ymarferol, mae hyn yn debygol o gynnwys undebau’r ffermwyr a chynrychiolwyr eraill y sector, ffermwyr a gweithwyr amaethyddol eu hunain.

Adran 5 – Gorfodi’r cyfraddau isaf

18.Mae’r adran hon yn creu’r drefn orfodi ar gyfer y darpariaethau sydd mewn gorchmynion cyflogau amaethyddol sy’n ymwneud â’r cyfraddau isaf o dâl y mae rhaid i weithwyr amaethyddol eu cael. Mae’n gwneud hyn, yn bennaf, drwy gymhwyso (gyda rhai addasiadau) y drefn a sefydlwyd gan Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998 (“Deddf 1998”) ar gyfer gorfodi cydymffurfiaeth â’r isafswm cyflog cenedlaethol.

19.Mae sawl agwedd ar y drefn orfodi hon.

Cofnodion

20.Mae cymhwyso adrannau 10 ac 11 o Ddeddf 1998> yn rhoi’r hawl i weithwyr amaethyddol weld cofnodion eu cyflogwyr i sicrhau eu bod yn cael eu talu o leiaf y gyfradd isaf sy’n gymwys iddynt hwy yn rhinwedd gorchymyn cyflogau amaethyddol. Dim ond os oes gan y gweithiwr sail resymol dros amau nad yw’n cael ei dalu’r swm cywir y caiff wneud hyn. Rhaid i’r gweithiwr ddilyn y weithdrefn a nodir yn adran 10 o Ddeddf 1998> (fel y’i cymhwysir gan y Ddeddf hon) i gael gweld y cofnodion.

21.Pan nad yw cyflogwr yn caniatáu i’r gweithiwr weld y cofnodion, caiff y gweithiwr gwyno i dribiwnlys cyflogaeth. Os yw’r tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu bod sail i’r gŵyn, rhaid iddo wneud datganiad i’r perwyl hwnnw a dyfarnu swm ariannol i’r gweithiwr.

Pwerau swyddogion

22.Mae cymhwyso adran 14 o Ddeddf 1998> yn rhoi pwerau i’r swyddogion a benodir gan Weinidogion Cymru (gweler adran 8 o’r Ddeddf hon isod) i sicrhau cydymffurfedd â’r drefn orfodi. Yn benodol, mae gan y swyddogion ystod o bwerau ymchwilio i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth a chofnodion gael eu rhoi.

23.Mae’n drosedd (yn rhinwedd cymhwyso adran 31(5) o Ddeddf 1998>), i berson rwystro swyddog rhag cyflawni ei ddyletswyddau neu ei ddal yn ôl rhag eu cyflawni. Mae hefyd yn drosedd i berson wrthod ateb cwestiynau swyddog neu wrthod rhoi’r wybodaeth y mae gan y swyddog hawl i’w gwneud yn ofynnol i berson ei darparu.

Yr hawl i dâl ychwanegol os caiff person ei dandalu

24.Mae cymhwyso adran 17 o Ddeddf 1998> yn golygu, pan fo gweithiwr amaethyddol yn cael ei dalu llai na’r gyfradd isaf y mae ganddo hawl i’w chael yn rhinwedd y Ddeddf, fod ganddo’r hawl i gael tâl ychwanegol ar gyfer y cyfnod pan gafodd y gweithiwr ei dandalu.

25.Cyfrifir y tâl ychwanegol y mae gan y gweithiwr yr hawl i’w gael ar sail wahanol i’r sail yn Neddf 1998 yn rhinwedd yr addasiadau yn adran 5(6) o’r Ddeddf hon. Mae gan y gweithiwr yr hawl i gael yr uchaf o naill ai:

  • y gwahaniaeth rhwng yr hyn a dalwyd i’r gweithiwr a’r hyn y dylid bod wedi ei dalu i’r gweithiwr, neu

  • y swm a gyfrifir yn unol â’r fformiwla a nodir yn adran 5(6)(b) o’r Ddeddf hon sy’n disodli adran 17(4) o Ddeddf 1998>.

Hysbysiadau o dandaliad

26.Mae cymhwyso adrannau 19, 19C, 19D, 19F, 19G a 19H o Ddeddf 1998> yn darparu’r mecanwaith i swyddogion gorfodi gyflwyno hysbysiadau i gyflogwyr sydd, ym marn y swyddog, o bosibl wedi tandalu gweithiwr neu weithwyr. Mae’r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyflogwr dalu’r swm sy’n ddyledus i’r gweithiwr (a gyfrifir yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1998>, fel y’i cymhwysir gan y Ddeddf hon) o fewn 28 niwrnod ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno iddo.

27.Gall cyflogwr y cyflwynwyd hysbysiad tandalu iddo apelio i dribiwnlys cyflogaeth.

28.Os na chydymffurfir â hysbysiad (yn gyfan gwbl neu fel arall), gall swyddog wneud cwyn ar ran y gweithiwr i dribiwnlys hawliau cyflogaeth.

29.Yn wahanol i Ddeddf 1998>, nid yw’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer gosod cosbau ariannol (y tu hwnt i’r tâl ychwanegol sy’n ddyledus) ar gyflogwyr.

Yr hawl i beidio â dioddef niwed

30.Mae cymhwyso adrannau 23 a 24 o Ddeddf 1998> yn rhoi’r hawl i weithiwr i beidio â dioddef niwed gan ei gyflogwr o ran:

  • y gweithiwr yn gorfodi hawliau o dan y Ddeddf hon (neu’n cael yr hawliau hynny wedi eu gorfodi ar ei ran),

  • cyflogwr y gweithiwr yn cael ei erlyn o dan y Ddeddf hon, neu

  • y gweithiwr â’r hawl neu’n mynd i gael yr hawl (neu â’r potensial i fod â’r hawl) i gael y gyfradd isaf o dâl yn unol â’r Ddeddf hon.

31.Pan fo cyflogwr yn peri niwed i’r gweithwyr o ganlyniad i orfodi hawliau’r gweithiwr, gall y gweithiwr wneud cwyn i dribiwnlys cyflogaeth.

Troseddau

32.Mae cymhwyso adrannau 31 i 33 o Ddeddf 1998> yn darparu ar gyfer y troseddau mewn perthynas â:

  • methiant i dalu i weithiwr amaethyddol y gyfradd isaf y mae gan y gweithiwr hwnnw hawl iddi;

  • methiant i gadw a diogelu’r cofnodion y mae’n ofynnol i gyflogwr eu cadw yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 7 o’r Ddeddf hon;

  • gwneud cofnodion anwir, cael rhywun i wneud hynny, neu ganiatáu i rywun wneud hynny;

  • cynhyrchu gwybodaeth neu gofnodion y mae’r person sy’n eu cynhyrchu yn gwybod eu bod yn cynnwys gwybodaeth anwir o ran manylyn o bwys;

  • rhwystro swyddogion wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau neu eu dal yn ôl rhag eu cyflawni neu wrthod ateb cwestiynau swyddogion neu wrthod rhoi gwybodaeth neu gofnodion perthnasol i swyddogion.

Y cosbau am y troseddau hyn yw dirwy ddiderfyn.

33.Caiff swyddog gorfodi, gydag awdurdodiad gan Weinidogion Cymru, gynnal achos ar gyfer trosedd gerbron llys ynadon.

Cyfyngiadau ar gontractio allan

34.Mae cymhwyso adran 49 o Ddeddf 1998> yn atal gweithwyr amaethyddol a’u cyflogwyr rhag cytuno ar gontract a fyddai’n osgoi’r telerau ac amodau isaf a gynhwysir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol.

35.Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â chytundebau yr ymrwymwyd iddynt mewn perthynas â chytundebau penodol a luniwyd er mwyn datrys neu osgoi achos tribiwnlys cyflogaeth.

Diswyddo annheg

36.Mae adran 5(8) o’r Ddeddf hon yn darparu yr ystyrir bod gweithiwr amaethyddol wedi ei ddiswyddo’n annheg os yw’r rheswm (neu’r prif reswm) dros ddiswyddo’r gweithiwr yn ymwneud â:

  • y gweithiwr yn gorfodi ei hawliau o dan y Ddeddf hon,

  • cyflogwr y gweithiwr yn cael ei erlyn o dan y Ddeddf hon, neu

  • y gweithiwr â’r hawl neu’n mynd i gael yr hawl (neu â’r potensial i fod â’r hawl) i gael y gyfradd isaf o dâl yn unol â’r Ddeddf hon.

Adran 6 – Gorfodi’r hawl i wyliau

37.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn drosedd i gyflogwr gweithiwr amaethyddol yng Nghymru fethu â chaniatáu i’r gweithiwr gymryd y gwyliau a bennir mewn gorchymyn cyflogau amaethyddol ac mae’n darparu bod yr uchafswm dirwy sy’n daladwy ar gollfarn yn lefel 3 ar y raddfa safonol (£4000 ar hyn o bryd).

38.Pan fo cyflogwr yn cael ei erlyn am fethu â chaniatáu i weithiwr gymryd gwyliau, y cyflogwr sydd i brofi bod y gweithiwr wedi cael caniatâd i gymryd nifer y diwrnodau o wyliau a osododd y cyflogwr, yn groes i nifer y diwrnodau o wyliau a bennir yn y gorchymyn cyflogau amaethyddol perthnasol.

Adran 7 – Dyletswydd ar gyflogwyr i gadw cofnodion

39.Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gweithwyr amaethyddol gadw cofnodion penodol sy’n berthnasol i’r Ddeddf hon. Er enghraifft, gallai’r cofnodion hyn gynnwys slipiau cyflog, taflenni amser, contract cyflogaeth a gwybodaeth yn ymwneud â gwyliau.

40.Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, yn rhinwedd adran 5 o’r Ddeddf hon, bydd yn drosedd i gyflogwr beidio â chadw’r cofnodion penodol neu, yn fwriadol, wneud (neu ganiatáu i rywun wneud) cofnodion anwir. Y gosb am y drosedd hon, os sicrheir collfarniad, yw dirwy ddiderfyn.

Adran 8 – Penodi swyddogion

41.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i benodi swyddogion gorfodi i weithredu yng Nghymru.

42.Wrth gyflawni eu dyletswyddau rhaid i swyddogion, os gofynnir iddynt wneud hynny, gyflwyno dogfen adnabod briodol i ddangos eu bod wedi eu hawdurdodi i gyflawni’r dyletswyddau hynny.

43.Yn ogystal, pan fo swyddogion o dan yr argraff nad yw unrhyw berson y maent yn siarad ag ef yn gwybod eu bod yn cyflawni dyletswyddau mewn perthynas â gorfodi cydymffurfedd â’r ddeddfwriaeth hon, rhaid i’r swyddogion esbonio hynny i’r person.

Adran 9 – Gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddogion

44.O dan yr adran hon, caniateir rhoi gwybodaeth a ddaw i feddiant swyddogion at ddibenion y Ddeddf i Weinidogion Cymru (fel arfer, er mwyn eu galluogi i ddod ag erlyniadau o dan y Ddeddf) neu i’r person y mae’r wybodaeth yn gymwys iddo (fel bod modd dwyn achos sifil mewn cysylltiad â’r tandaliad).

45.Fodd bynnag, ni chaniateir i Weinidogion Cymru roi’r wybodaeth a geir o dan yr adran hon i unrhyw berson neu gorff arall oni bai bod ei hangen ar gyfer achos troseddol neu sifil.

Adran 10 – Ystyr “yr isafswm cyflog cenedlaethol”

46.Mae’r adran hon yn darparu’r diffiniad o’r isafswm cyflog cenedlaethol at ddibenion y Ddeddf hon.

47.Yn y rhan fwyaf o achosion hon yw’r gyfradd sengl isaf yr awr fel y’i gosodir gan reoliadau a wneir o dan adran 1(3) o Ddeddf 1998>.

48.Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau a nodir yn is-adrannau (2) i (5) o’r Ddeddf hon, caniateir barnu bod cyfradd wahanol ar gyfer yr isafswm cyflog cenedlaethol yn gymwys.

Adran 11 - Diwygio’r Rheoliadau Oriau Gwaith

49.Mae’r ddarpariaeth hon yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Oriau Gwaith 1998 er mwyn sicrhau bod y rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymwys i weithwyr amaethyddol yng Nghymru yn yr un modd ag y maent ar hyn o bryd mewn perthynas â blwyddyn gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol.

Adran 12 - Darpariaeth drosiannol

50.Mae’r adran hon yn darparu bod darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel yr oeddent pan wnaed y Gorchymyn hwnnw ar 20 Gorffennaf 2012) i gael effaith mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol yng Nghymru o 1 Hydref 2013 ymlaen. Bydd y darpariaethau hynny yn peidio â chael effaith pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd o dan adran 4 o’r Ddeddf.

51.At ddibenion gorfodi darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 o 1 Hydref 2013 ymlaen, bernir ei fod yn orchymyn a wnaed o dan adran 4 o’r Ddeddf. Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau a gronnir cyn 1 Hydref 2013 i gael eu gorfodi o dan Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948: gweler erthygl 4 o Orchymyn Menter a Diwygio Rheoleiddio (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013 (O.S. 2013/1455).

52.Os bydd yr isafswm cyflog cenedlaethol, ar unrhyw adeg, yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf yng Ngorchymyn Cyflogau 2012, bernir bod y gyfradd isaf o dan sylw yr un fath â’r isafswm cyflog cenedlaethol.

53.Er hwylustod cyfeirio, atodir copi o Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 i’r Nodiadau hyn.

Adran 13 – Adroddiad ar weithrediad ac effaith y Ddeddf hon

54.Mae’r adran hon yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y tair blynedd gyntaf ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl i’r cyfnod tair blynedd ddod i ben, ac ar ôl ymgynghori â phartïon a chanddynt fuddiant er mwyn eu cynorthwyo, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth am weithrediad ac effaith y Ddeddf, a’i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

55.Bydd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion ynghylch effaith y Ddeddf ar weithwyr amaethyddol, cyflogwyr gweithwyr amaethyddol a’r sector amaethyddol yn gyffredinol.

56.Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad ar ôl iddo gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 14 – Cyfnod para’r Ddeddf hon

57.Mae’r adran hon yn gweithredu er mwyn dod â’r Ddeddf i ben bedair blynedd ar ôl y dyddiad y daw i rym, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn sy’n nodi bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.

58.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn i gadw effaith y Ddeddf ond ar ôl i’r cyfnod adolygu o 3 blynedd ddod i ben ond cyn i bedair blynedd fynd heibio ers y dyddiad y daeth y Ddeddf i rym.

Adran 15 - Troseddau gan gyrff corfforaethol

59.O dan yr adran hon, pan fo corff corfforaethol (megis cwmni) wedi cyflawni trosedd, caniateir hefyd farnu cyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog tebyg mewn corff corfforaethol (neu berson sy’n honni ei fod mewn swydd o’r fath) yn euog o’r drosedd, a’i gosbi amdani, os oedd yn ymwneud â chomisiynu’r drosedd, yn gwybod amdani (heb wneud unrhyw beth) neu y dylai fod wedi gwybod amdani’n rhesymol.

Adran 16 - Darpariaeth ategol

60.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion at ddibenion rhoi effaith lawn i’r Ddeddf ac mewn cysylltiad â hynny.

61.Gellid defnyddio hon, er enghraifft, i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall pan sefydlir Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru.

Adran 17 – Gorchmynion a rheoliadau

62.Mae’r adran hon yn darparu bod pwerau Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion a rheoliadau i’w harfer drwy offeryn statudol. Wrth wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth arall er mwyn rhoi effaith lawn i’r gorchmynion neu’r rheoliadau hynny (megis ymdrin â materion trosiannol).

63.Mae gorchmynion o dan adrannau 2, 14 ac adran 16 (pan fo’n addasu testun Deddf neu Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Ddeddf Seneddol), a hefyd y rheoliadau a wneir o dan adran 7, yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol.

64.Mae unrhyw orchmynion eraill a wneir o dan y Ddeddf yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.

Adran 18 - Dehongli

65.Mae’r adran hon yn darparu ystyr termau allweddol yn y Ddeddf.

66.Ymhlith y diffiniadau sy’n werth sylwi arnynt yma mae “gweithiwr amaethyddol” ac “amaethyddiaeth”.

67.Mae “gweithiwr amaethyddol” yn berson a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, p’un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio. Felly, nid yw o bwys pa ganran o waith a wneir yng Nghymru i ddarpariaethau’r Ddeddf fod yn berthnasol i weithiwr.

68.Mae’r diffiniad o “amaethyddiaeth” yn ehangach na’r hyn y gellid ei ystyried fel ei hystyr cyffredin. O ganlyniad, er ei fod yn cynnwys trin pridd i dyfu cnydau a magu anifeiliaid i ddarparu bwyd, gwlân a chynhyrchion eraill, mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau megis ffermio gwartheg godro, defnyddio tir fel tir helyg gwiail neu fel gardd farchnad.

Adran 19 - Cychwyn

69.Daeth darpariaethau’r Ddeddf i rym ar 30 Gorffennaf 2014, diwrnod y Cydsyniad Brenhinol.

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

70.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=7272

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd2 Gorffennaf 2013
Cyfnod 1 – Dadl9 Gorffennaf 2013
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau16 Gorffennaf 2013
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau17 Gorffennaf 2013
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad17 Gorffennaf 2013
Y Cydsyniad Brenhinol30 Gorffennaf 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources