Amrywiol

I112Darpariaeth drosiannol

1

Er gwaethaf y darpariaethau a restrir yn is-adran (2), mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 i gael effaith o ran gweithwyr amaethyddol ar 1 Hydref 2013 ac wedi hynny hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol.

2

Mae’r darpariaethau fel a ganlyn—

a

adran 72(4) a pharagraff 2 o Atodlen 20 i Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013;

3

Mae darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, at ddibenion unrhyw hawl neu atebolrwydd a gronnir oddi tanynt ar 1 Hydref 2013 neu wedi hynny, i gael eu trin fel petaent yn ddarpariaethau gorchymyn cyflogau amaethyddol a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf hon.

4

Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn uwch nag unrhyw gyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr a nodir yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012, bernir mai’r gyfradd isaf dan sylw yw’r isafswm cyflog cenedlaethol.

5

Os yw’r isafswm cyflog cenedlaethol yn swm sy’n golygu bod cyfradd isaf (ac eithrio cyfradd isaf sy’n gyfradd fesul awr) yn narpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012 yn rhoi cyfradd tâl lai am bob awr a weithir na swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol, bernir bod y gyfradd isaf dan sylw yn gyfradd sy’n rhoi tâl am bob awr a weithir sydd gyfwerth â swm fesul awr yr isafswm cyflog cenedlaethol.

6

Yn yr adran hon, ystyr “darpariaethau Gorchymyn Cyflogau 2012” yw darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 (fel y’i gwnaed gan Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr ar 20 Gorffennaf 2012).