Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014

4Gorchmynion cyflogau amaethyddol: pwerau Gweinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl cael gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft oddi wrth y Panel—

(a)cymeradwyo a gwneud y gorchymyn, neu

(b)cyfeirio’r gorchymyn yn ôl at y Panel i’w ystyried ymhellach a’i ailgyflwyno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, o’u pen a’u pastwn eu hunain, wneud gorchmynion cyflogau amaethyddol hyd nes bod y Panel wedi ei sefydlu.

(3)Cyn gwneud gorchymyn cyflogau amaethyddol o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau neu’r cyrff hynny sy’n debygol o fod â buddiant yn y gorchymyn yn eu barn hwy.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cyflogau amaethyddol gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth—

(a)ynghylch ffurf a chynnwys gorchymyn, a

(b)ynghylch y weithdrefn i’w dilyn a’r ymgynghori i’w gynnal mewn perthynas â gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19