RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Atodol

43Gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth

1

Nid yw unrhyw rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau mewn amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd unrhyw ddarpariaeth mewn tenantiaeth ddomestig annedd y mae’r Rhan hon wedi ei thorri mewn perthynas â hi.

2

Ond o ran taliadau cyfnodol—

a

caniateir i rai sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hatal yn unol ag adran 30 (gorchmynion atal rhent), a

b

caniateir i rai a delir mwn cysylltiad â thenantiaeth o’r fath gael eu hadfer yn unol ag adrannau 32 a 33 (gorchmynion ad-dalu rhent).

44Cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau

1

Ni chaniateir rhoi hysbysiad adran 21 mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr os—

a

nad yw’r landlord yn gofrestredig mewn perthynas â’r annedd, neu

b

nad yw’r landlord yn drwyddedig o dan y Rhan hon ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi ac nad yw wedi penodi person sydd yn drwyddedig o dan y Rhan hon i ymgymryd â’r holl waith rheoli eiddo mewn perthynas â’r annedd ar ran y landlord.

2

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys am y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod pan fo buddiant y landlord yn yr annedd yn cael ei aseinio i’r landlord.

3

Yn yr adran hon, ystyr “hysbysiad adran 21” yw hysbysiad o dan adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf Tai 1988.

45Landlordiaid sy’n ymddiriedolwyr

Os ymddiriedolwyr yw’r landlord, caniateir i’r landlord fod yn gofrestredig neu’n drwyddedig at ddibenion y Rhan hon o dan enw sy’n ddisgrifiad ar y cyd o’r ymddiriedolwyr fel ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth o dan sylw.

46Rheoliadau ar ffioedd

1

Caiff rheoliadau a wneir o dan y Rhan hon sy’n rhagnodi swm ffi sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â cheisiadau i fod yn gofrestredig neu yn drwyddedig ddarparu —

a

mai’r ffi fydd swm a nodir yn y rheoliadau;

b

y caiff y ffi ei phenderfynu gan berson neu drwy ddull a bennir yn y rheoliadau.

2

Caiff y cyfryw reoliadau ragnodi ffi wahanol ar gyfer gwahanol bersonau.

47Gwybodaeth am geisiadau

Rhaid i awdurdod trwyddedu gyhoeddi gwybodaeth am ei ofynion mewn perthynas ag—

a

ffurf a chynnwys ceisiadau i fod yn gofrestredig ac yn drwyddedig;

b

yr wybodaeth sydd i’w darparu wrth wneud ceisiadau.

48Rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson perthnasol neu’n ei awdurdodi (ym mha dermau bynnag) i—

a

hysbysu person am rywbeth, neu

b

rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).

2

Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i’r person o dan sylw—

a

drwy ei draddodi neu ei thraddodi i’r person,

b

drwy ei anfon neu ei hanfon drwy’r post i gyfeiriad cywir y person,

c

drwy ei adael neu ei gadael yn nghyfeiriad cywir y person, neu

d

os yw’r amodau yn is-adran (4) yn cael eu bodloni, drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig.

3

Caniateir i’r hysbysiad gael ei roi neu i’r ddogfen gael ei rhoi i gorff corfforaethol drwy ei roi neu ei rhoi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

4

Caiff person perthnasol anfon hysbysiad neu ddogfen yn electronig at berson dim ond os bodlonir y gofynion a ganlyn—

a

rhaid i’r person y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo fod wedi—

i

nodi wrth y person perthnasol barodrwydd i gael yr hysbysiad neu’r ddogfen yn electronig, a

ii

rhoi cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw i’r person perthnasol, a

b

rhaid i’r person perthnasol anfon yr hysbysiad neu’r ddogfen i’r cyfeiriad hwnnw.

5

At ddibenion yr adran hon ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn ei gymhwysiad i’r adran hon, cyfeiriad cywir person yw—

a

yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

b

mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person.

6

Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei adael neu ei gadael yng nghyfeiriad cywir y person i’w drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel ei fod neu ei bod wedi ei roi neu ei rhoi ar yr amser y gadawyd ef neu hi yn y cyfeiriad.

7

Mae pob un o’r canlynol yn “berson perthnasol” at ddibenion yr adran hon—

a

awdurdod trwyddedu;

b

awdurdod tai lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu;

c

person sydd, yn rhinwedd awdurdodiad ysgrifenedig, yn arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ar ran awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol o’r math a grybwyllir ym mharagraff (b).