RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gwybodaeth
I1I536Ceisiadau am wybodaeth gan awdurdodau a defnyddio gwybodaeth gan awdurdodau
1
Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod tai lleol ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (2) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod tai lleol gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod tai lleol yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod tai lleol ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r awdurdod tai lleol.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth y mae awdurdod tai lleol wedi cael gafael arni wrth iddo arfer—
a
ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;
b
ei swyddogaethau o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (y dreth gyngor).
3
Dylid trin gwybodaeth a ddaeth i law awdurdod tai lleol o dan adran 134 o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 (budd-dal tai) cyn i’r adran honno gael ei diddymu gan Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Lles 2012 fel gwybodaeth y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
4
Os bydd awdurdod trwyddedu yn gofyn i awdurdod trwyddedu arall ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod arall gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod arall yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.
5
Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw wybodaeth sydd wedi dod i law awdurdod trwyddedu wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
6
Caiff awdurdod trwyddedu ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (1) neu (4) ai peidio) at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.
7
Os bydd awdurdod tai lleol yn gofyn i awdurdod trwyddedu ddarparu gwybodaeth iddo y mae is-adran (5) yn gymwys iddi ac sydd ei hangen arno at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gydymffurfio â’r cais oni bai bod yr awdurdod trwyddedu yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r awdurdod ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer ei swyddogaethau.
8
Caiff awdurdod tai lleol ddefnyddio unrhyw wybodaeth y mae is-adran (2) neu (5) yn gymwys iddi (pa un a yw wedi ei chael o dan is-adran (7) ai peidio) at unrhyw ddibenion sy’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon.
I2I637Pŵer i’w gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfennau neu ddarparu gwybodaeth
1
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan awdurdod trwyddedu arfer y pwerau a roddir gan is-adrannau (2) a (3) mewn perthynas â dogfennau neu wybodaeth (yn ôl y digwydd) sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod—
a
at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod o dan y Rhan hon, neu
b
at ddiben ymchwilio a oes unrhyw drosedd wedi ei chyflawni o dan y Rhan hon.
2
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
a
cyflwyno unrhyw ddogfennau sydd—
i
wedi eu pennu neu eu disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o ddogfen sydd wedi ei bennu neu ei ddisgrifio yn yr hysbysiad, a
ii
sydd yng ngwarchodaeth neu o dan reolaeth y person, a
b
eu cyflwyno ar adeg, mewn lleoliad ac i berson a bennir yn yr hysbysiad.
3
Caiff person sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1) roi hysbysiad i berson perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw—
a
cyflwyno unrhyw wybodaeth sydd—
i
wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, neu sy’n dod o dan gategori o wybodaeth sydd wedi ei phennu neu ei disgrifio yn yr hysbysiad, a
ii
sy’n hysbys i’r person, a
b
ei rhoi mewn modd ac ar ffurf a bennir yn yr hysbysiad.
4
Rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (2) neu (3) gynnwys gwybodaeth am ganlyniadau posibl peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.
5
Caiff y person y cyflwynir unrhyw ddogfen iddo yn unol â hysbysiad o dan is-adrannau (2) neu (3) wneud copi o’r ddogfen.
6
Nid yw’n ofynnol o dan yr adran hon i unrhyw berson gyflwyno unrhyw ddogfen neu roi unrhyw wybodaeth y byddai’r person o fewn ei hawl i wrthod eu rhoi mewn achos yn yr Uchel Lys ar sail braint broffesiynol gyfreithiol.
7
Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny, mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy.
8
Yn yr adran hon, mae “person perthnasol” yn golygu person a gynhwysir yn unrhyw un neu ragor o’r paragraffau canlynol—
a
person sy’n gwneud cais am drwydded o dan y Rhan hon neu sy’n ddeiliad trwydded o dan y Rhan hon;
b
person sydd ag ystâd neu fuddiant mewn eiddo ar rent;
c
person sy’n ymwneud â gosod neu reoli eiddo ar rent, neu’n bwriadu bod yn ymwneud â hynny;
d
person sy’n preswylio mewn eiddo ar rent.
I3I738Gorfodi pwerau cael gafael ar wybodaeth
1
Mae person sy’n methu â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud drwy hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.
2
Mewn achos yn erbyn person am drosedd o dan is-adran (1), mae’r ffaith fod gan y person esgus rhesymol am fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad yn amddiffyniad.
3
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.
4
Mae person sy’n mynd ati’n fwriadol i newid, i atal neu i ddinistrio unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol iddo ei chyflwyno gan hysbysiad o dan adran 37 yn cyflawni trosedd.
5
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (4) yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy.
6
Yn yr adran hon, mae “dogfen” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar ffurfiau nad ydynt yn ffurfiau darllenadwy, ac mewn perthynas â gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi fel hynny—
a
mae’r cyfeiriad at gyflwyno dogfen yn gyfeiriad at gyflwyno copi o’r wybodaeth ar ffurf ddarllenadwy, a
b
mae’r cyfeiriad at atal dogfen yn cynnwys cyfeiriad at ddinistrio’r ffordd o atgynhyrchu’r wybodaeth.
I4I839Gwybodaeth anwir neu gamarweiniol
1
Mae person—
a
sy’n cyflenwi unrhyw wybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, a
b
sy’n gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,
yn cyflawni trosedd.
2
Mae person—
a
sy’n cyflenwi gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol i berson arall,
b
sy’n gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol neu sy’n ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol, ac
c
sy’n gwybod bod yr wybodaeth i’w defnyddio at ddibenion cyflenwi gwybodaeth i awdurdod trwyddedu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon,
yn cyflawni trosedd.
3
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
4
Yn yr adran hon, ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw yn anwir neu’n gamarweiniol mewn unrhyw fater perthnasol.