xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Pwerau Gweinidogion CymruLL+C

40Cod ymarferLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod ymarfer yn pennu safonau mewn perthynas â gosod a rheoli eiddo ar rent.

(2)Gellir dyroddi safonau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) mewn perthynas â hyfforddiant.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi cod ymarfer sydd, yn rhannol neu’n gyfan gwbl, yn gymwys i bersonau neu achosion penodedig yn unig, neu’n cael ei gymhwyso’n wahanol i wahanol bersonau neu achosion;

(b)diwygio cod ymarfer neu ei dynnu yn ôl.

(4)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod ymarfer rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau rhesymol i ymgynghori â’r canlynol—

(a)personau sy’n gysylltiedig â gosod a rheoli eiddo ar rent a phersonau sy’n meddiannu eiddo ar rent o dan denantiaeth, neu

(b)personau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau’r personau a grybwyllir ym mharagraff (a),

ar fersiwn ddrafft o’r cod neu fersiwn ddrafft o god diwygiedig (“y cod arfaethedig”).

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r cod arfaethedig (gydag addasiadau neu heb addasiadau), rhaid iddynt osod copi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y fersiwn ddrafft honno oni bai ei fod wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(7)Unwaith y mae wedi ei gymeradwyo mae’r cod neu’r cod diwygiedig yn dod i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn Gweinidogion Cymru.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu cod a wneir o dan yr adran hon yn ôl mewn cod diwygiedig neu drwy gyfarwyddyd.

(9)Ni chaniateir i god a gymeradwywyd drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei dynnu yn ôl oni chymeradwyir cynnig i’r perwyl hwnnw drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi pob cod neu god diwygiedig a ddyroddir o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 40 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3

I3A. 40 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(s)

I4A. 40 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

41CanllawiauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

[F1(2A)Caiff canllawiau a roddir i awdurdod trwyddedu gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth ynghylch materion sydd i’w hystyried gan awdurdod trwyddedu wrth benderfynu a yw methiant i ad-dalu swm unrhyw daliad gwaharddedig neu flaendal cadw (o fewn ystyr Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019) yn effeithio ar addasrwydd person i gael ei drwyddedu o dan y Rhan hon.]

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau o dan y Rhan hon yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig;

(b)diwygio canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach;

(c)dirymu canllawiau a roddir o dan y Rhan hon drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau o dan y Rhan hon neu hysbysiad o dan yr adran hon.

(5)Cyn rhoi, diwygio neu ddirymu canllawiau o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r cyfryw bersonau ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(6)Gall ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni’r gofyniad yn is-adran (5).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6A. 41 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3

I7A. 41 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(t)

I8A. 41 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

42CyfarwyddiadauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i awdurdod trwyddedu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Wrth arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon ac eithrio fel awdurdod trwyddedu, rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) gael ei roi yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiad penodedig.

(4)Mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd dilynol;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I10A. 42 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I11A. 42 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1066, ergl. 2

I12A. 42 mewn grym ar 23.11.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(2)(u)