RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Ceisiadau am gymorth ac asesiad
I1I362Dyletswydd i asesu
1
Rhaid i awdurdod tai lleol gynnal asesiad o achos person—
a
os yw’r person wedi gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety,
b
os yw’n ymddangos i’r awdurdod y gallai’r person fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, ac
c
os nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r person.
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r person wedi ei asesu gan awdurdod tai lleol o dan yr adran hon ar achlysur blaenorol a bod yr awdurdod yn fodlon—
a
nad yw amgylchiadau’r person wedi newid yn sylweddol ers i’r asesiad gael ei gynnal, a
b
nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n cael effaith sylweddol ar yr asesiad hwnnw.
3
Yn y Bennod hon, ystyr “ceisydd” yw person y mae’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys iddo.
4
Rhaid i’r awdurdod asesu pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon ai peidio.
5
Os yw’r ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon, rhaid i’r asesiad gynnwys asesiad o’r canlynol—
a
yr amgylchiadau sydd wedi achosi i’r ceisydd fod yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd;
b
anghenion tai y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef;
c
y gefnogaeth y mae ei hangen ar y ceisydd ynghyd ag unrhyw berson y mae’r ceisydd yn byw gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gydag ef i gadw llety sydd ar gael neu a allai ddod ar gael;
d
pa un a oes unrhyw ddyletswydd ar yr awdurdod i’r ceisydd ai peidio o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon.
6
Wrth gynnal asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—
a
ceisio canfod pa ganlyniad y mae’r ceisydd yn dymuno ei gyflawni drwy gymorth yr awdurdod, a
b
asesu pa un a allai arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Bennod hon gyfrannu at gyflawni’r amcan hwnnw.
7
Caiff awdurdod tai lleol gynnal ei asesiad o’r materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) cyn iddo benderfynu bod y ceisydd yn gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon.
8
Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod yn ystyried bod dyletswydd arno i’r ceisydd o dan ddarpariaethau canlynol y Bennod hon neu y gallai dyletswydd fod arno.
9
Rhaid i awdurdod tai lleol adolygu ei asesiad yn y ddau achos a ganlyn—
Achos 1 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd o dan adran 66 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben gan fod y ceisydd yn ddigartref;
Achos 2 - pan fo ceisydd wedi ei hysbysu o dan adran 63 bod dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 73 (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref) a’i bod yn ymddangos i’r awdurdod wedi hynny bod y ddyletswydd yn adran 73 wedi dod i ben neu’n debygol o ddod i ben o dan amgylchiadau pan y gallai dyletswydd fod yn ddyledus i’r ceisydd o dan adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).
10
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (5)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol asesu a fyddai dyletswydd i’r ceisydd o dan adran 75 ai peidio oni bai a hyd nes y bo’n adolygu ei asesiad yn unol ag is-adran (9) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn achos 2 o’r is-adran honno; ond caniateir iddo wneud felly cyn hynny.
11
Nid yw is-adrannau (9) a (10) yn effeithio ar gyffredinolrwydd is-adran (8).
I2I463Hysbysu am ganlyniad asesiad
1
Rhaid i’r awdurdod tai lleol hysbysu’r ceisydd am ganlyniad ei asesiad (neu unrhyw adolygiad o’i asesiad) ac, i’r graddau y bo unrhyw fater yn cael ei benderfynu yn groes i fuddiannau’r ceisydd, roi gwybod i’r ceisydd am y rhesymau dros ei benderfyniad.
2
Os yw’r awdurdod yn penderfynu bod dyletswydd arno mewn perthynas â’r ceisydd o dan adran 75, ond na fyddai wedi gwneud hynny heblaw ei fod wedi rhoi sylw i berson cyfyngedig, rhaid i’r hysbysiad o dan is-adran (1) hefyd—
a
rhoi gwybod i’r ceisydd ei fod wedi gwneud y penderfyniad ar y sail honno,
b
cynnwys enw’r person cyfyngedig,
c
egluro pam fod y person yn berson cyfyngedig, a
d
egluro effaith adran 76(5).
3
Os yw’r awdurdod wedi hysbysu awdurdod tai lleol arall, neu’n bwriadu gwneud hynny, o dan adran 80 (atgyfeirio achosion), rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y penderfyniad hwnnw ar yr un pryd a rhoi gwybod iddo am y rhesymau dros hynny.
4
Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) neu (3) hefyd—
a
rhoi gwybod i’r ceisydd am ei hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad a’r cyfnod amser y mae’n rhaid cyflwyno cais o’r fath ynddo (gweler adran 85), a
b
cael ei roi ar ffurf ysgrifenedig ac, os nad yw’n dod i law, gael ei drin fel pe bai wedi ei roi os yw ar gael yn swyddfa’r awdurdod am gyfnod rhesymol i’w gasglu gan y ceisydd neu ar ran y ceisydd.
5
Yn y Bennod hon, ystyr “person cyfyngedig” yw person—
a
nad yw’n gymwys i gael cymorth o dan y Bennod hon,
b
sy’n destun rheolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, ac
c
sydd naill ai—
i
â dim hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu
ii
â’r hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yno yn amodol ar y ffaith ei fod yn ei gynnal ac yn ei letya ei hun, ynghyd ag unrhyw ddibynyddion, heb ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus.