RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Darpariaethau atodol
I1I990Ffioedd
Caiff awdurdod tai lleol ei gwneud yn ofynnol i berson y mae’n arfer ei swyddogaethau mewn perthynas ag ef o dan y Bennod hon—
a
talu ffioedd rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â llety y mae’n ei sicrhau i’r person ei feddiannu (naill ai drwy sicrhau ei fod ar gael ei hun neu fel arall), neu
b
talu swm rhesymol a benderfynir gan yr awdurdod mewn perthynas â symiau sy’n daladwy ganddo ar gyfer llety y mae person arall yn sicrhau ei fod ar gael.
I2I1091Lleoli y tu allan i’r ardal
1
Rhaid i awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu yn ei ardal, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
2
Os yw’r awdurdod yn sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu y tu allan i’w ardal yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid iddo roi hysbysiad i’r awdurdod tai lleol (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) y mae’r llety wedi ei leoli yn ei ardal.
3
Rhaid i’r hysbysiad nodi—
a
enw’r ceisydd,
b
nifer y personau eraill sy’n preswylio fel arfer gyda’r ceisydd fel aelod o’i deulu neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda’r ceisydd, a disgrifiad o’r personau hynny,
c
cyfeiriad y llety,
d
y dyddiad y daeth y llety ar gael i’r ceisydd, ac
e
pa swyddogaeth o dan y Bennod hon yr oedd yr awdurdod yn ei chyflawni wrth sicrhau bod y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.
4
Rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig, a rhaid ei roi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd.
I3I1192Llety interim F2yn Lloegr: trefniadau â landlord preifat
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol, wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan adran 68, 82 neu 88(5) (llety interim), yn gwneud trefniadau â landlord preifat i ddarparu llety F3yn Lloegr.
2
Ni all tenantiaeth a roddir i’r ceisydd o dan y trefniadau fod yn denantiaeth sicr cyn diwedd y cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar—
a
y dyddiad yr hysbyswyd y ceisydd am benderfyniad yr awdurdod o dan adran 63(1) neu 80(5), neu
b
os oes adolygiad o’r penderfyniad hwnnw o dan adran 85 neu apêl i’r llys o dan adran 88, y dyddiad yr hysbysir y ceisydd am y penderfyniad mewn adolygiad neu’r dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl,
oni bai bod y tenant, cyn neu yn ystod y cyfnod hwnnw, yn cael ei hysbysu gan y landlord (neu yn achos landlordiaid ar y cyd, gan o leiaf un ohonynt) bod y denantiaeth i gael ei hystyried yn denantiaeth fyrddaliol sicr neu’n denantiaeth sicr heblaw tenantiaeth fyrddaliol sicr.
92AF1Llety yng Nghymru
1
Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan wneir tenantiaeth neu drwydded mewn cysylltiad â llety yng Nghymru gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon (digartrefedd), gweler paragraff 11 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).
2
Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety, gweler paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).
I4I1293Gwarchod eiddo
1
Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i ddyletswydd mewn perthynas â cheisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2), rhaid iddo gymryd camau rhesymol i atal colli eiddo personol y ceisydd neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—
a
bod perygl y gallai’r eiddo gael ei golli neu ei niweidio o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a
b
nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.
2
Y dyletswyddau mewn perthynas â cheisydd yw—
adran 66 (dyletswydd i gynorthwyo i atal ceisydd rhag dod yn ddigartref) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol);
adran 68 ( dyletswydd interim i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref mewn angen blaenoriaethol);
adran 75 (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben);
adran 82 (dyletswyddau i geisydd y mae ei achos yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio) yn achos ceisydd mewn angen blaenoriaethol.
3
Pan fo awdurdod tai lleol wedi dod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), mae’n parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd honno hyd yn oed os yw’r ddyletswydd mewn perthynas â’r ceisydd fel a ddisgrifir yn is-adran (2) yn dod i ben.
4
Mae dyletswydd awdurdod tai lleol o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i’r cyfryw amodau ag y mae’n eu hystyried yn briodol yn yr achos neilltuol, a gaiff gynnwys amodau ynghylch—
a
yr awdurdod yn codi ac yn adennill ffioedd rhesymol am y camau a gymerir, neu
b
yr awdurdod yn gwaredu, o dan y cyfryw amgylchiadau y gellir eu pennu, eiddo y cymerir camau mewn perthynas ag ef.
5
Caiff awdurdod tai lleol gymryd unrhyw gamau y mae’n eu hystyried yn rhesymol at ddiben gwarchod eiddo personol ceisydd sy’n gymwys i gael cymorth neu i atal neu liniaru niwed iddo os oes gan yr awdurdod reswm i gredu—
a
bod perygl o golli’r eiddo, neu niwed i’r eiddo, o ganlyniad i anallu’r ceisydd i’w warchod neu i ymdrin ag ef, a
b
nad oes unrhyw drefniadau addas eraill wedi eu gwneud neu’n cael eu gwneud.
6
Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.
I5I1394Gwarchod eiddo: darpariaethau atodol
1
At ddibenion adran 93 caiff yr awdurdod—
a
mynd, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre sy’n breswylfa arferol i’r ceisydd neu a oedd yn breswylfa arferol i’r ceisydd ddiwethaf, a
b
ymdrin ag unrhyw eiddo personol gan y ceisydd mewn unrhyw fodd sy’n rhesymol angenrheidiol, yn arbennig drwy ei storio neu drefnu iddo gael ei storio.
2
Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.
3
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cyflawni trosedd a yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.
4
Pan fo’r ceisydd yn gofyn i’r awdurdod symud ei eiddo i leoliad penodol a enwebir gan y ceisydd—
a
caiff yr awdurdod, os ymddengys iddo bod y cais yn un rhesymol, gyflawni ei gyfrifoldebau o dan adran 93 drwy wneud yr hyn y mae’r ceisydd yn gofyn amdano, a
b
ar ôl gwneud hynny, nid oes ganddo unrhyw ddyletswydd bellach na phŵer pellach i gymryd camau o dan yr adran honno mewn perthynas â’r eiddo hwnnw.
5
Os gwneir cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd cyn cydymffurfio â’r cais am ganlyniadau gwneud hynny.
6
Os na wneir unrhyw gais o’r fath (neu, os caiff ei wneud, nas gweithredir arno) mae unrhyw ddyletswydd neu bŵer ar ran yr awdurdod i gymryd camau o dan adran 93 yn dod i ben pan fydd o’r farn nad oes unrhyw reswm i gredu bellach bod yna berygl o golli neu niweidio eiddo personol person o ganlyniad i’w anallu i’w warchod neu i ymdrin ag ef.
7
Ond caniateir cadw mewn storfa unrhyw eiddo sy’n cael ei storio yn rhinwedd y ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd y cyfryw gamau ac mae unrhyw amodau y’i cymerwyd i storfa ar eu sail yn parhau i gael effaith, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.
8
Pan fo’r awdurdod—
a
yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i gymryd camau o dan adran 93 mewn perthynas ag eiddo ceisydd, neu
b
yn peidio â bod â’r pwerau i gymryd y cyfryw gamau, ar ôl cymryd y cyfryw gamau yn flaenorol,
rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y ffaith honno a’r rheswm dros hynny.
9
Rhaid rhoi’r hysbysiad i’r ceisydd—
a
drwy ei drosglwyddo i’r ceisydd, neu
b
ei adael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y ceisydd, neu ei anfon yno.
10
Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.
I6I8I1495Cydweithredu
1
Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud trefniadau i hybu cydweithredu rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol a’r rhai hynny sy’n arfer ei swyddogaethau fel yr awdurdod tai lleol gyda’r nod o gyflawni’r amcanion canlynol yn ei ardal—
a
atal digartrefedd,
b
bod llety addas ar gael neu y bydd ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref,
c
bod cefnogaeth foddhaol ar gael i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref, a
d
arfer ei swyddogaethau yn effeithiol o dan y Rhan hon.
2
Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (5) wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.
3
Os yw awdurdod tai lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (5) ddarparu gwybodaeth iddo sy’n ofynnol ganddo er mwyn arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai bod y person yn ystyried y byddai gwneud hynny—
a
yn anghydnaws â dyletswyddau’r person ei hun, neu
b
yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r person.
4
Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (2) neu (3) roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y cais.
5
Y personau (pa un a ydynt yng Nghymru neu yn Lloegr) yw—
a
awdurdod tai lleol;
b
awdurdod gwasanaethau cymdeithasol;
c
landlord cymdeithasol cofrestredig;
d
corfforaeth tref newydd;
e
darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig;
f
ymddiriedolaeth gweithredu tai.
6
Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (5) drwy orchymyn er mwyn hepgor neu ychwanegu person, neu ddisgrifiad o berson.
7
Ni chaiff gorchymyn o dan is-adran (6) ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron.
8
Yn yr adran hon—
mae i “corfforaeth tref newydd” yr un ystyr a roddir i “new town corporation” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1985;
mae i “darparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “private registered provider of social housing” gan Rhan 2 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008;
mae i “landlord cymdeithasol cofrestredig” yr un ystyr a roddir i “registered social landlord” gan Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996;
ystyr “ymddiriedolaeth gweithredu tai” (“housing action trust”) yw ymddiriedolaeth gweithredu tai a sefydlwyd dan Rhan 3 o Ddeddf Tai 1988.
I7I1596Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef—
a
bod yn anghymwys i gael cymorth,
b
bod yn ddigartref ac nad yw dyletswydd o dan adran 68, 73 neu 75 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd, neu
c
bod o dan fygythiad o ddigartrefedd ac nad yw dyletswydd o dan adran 66 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd.
2
Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau—
a
bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio i atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, a
b
os yw’r ceisydd wedi rhoi’r cydsyniad hwnnw, bod yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei hysbysu am y ffeithiau hynny ynghyd â phenderfyniad dilynol yr awdurdod mewn perthynas â’i gais.
3
Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer ar wahân i’r adran hon i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymdrin ag achos y ceisydd i’r adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad y ceisydd.
4
Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau, pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, fod ei adran dai yn rhoi’r cyfryw gyngor a chynhorthwy i’r adran gwasanaethau cymdeithasol ag y caiff yr adran gwasanaethau cymdeithasol ofyn yn rhesymol amdanynt.
5
Yn yr adran hon, mewn perthynas â chyngor sir neu fwrdeistref sirol—
ystyr “yr adran dai” (“the housing department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;
ystyr “yr adran gwasanaethau cymdeithasol” (“the social services department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.