RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Termau allweddol
I1I954Cymhwyso termau allweddol
Mae adrannau 55 i 59 yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
I2I1055Ystyr digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd
1
Mae person yn ddigartref os nad oes unrhyw lety ar gael i’r person ei feddiannu, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, y mae’r person—
a
â hawl i’w feddiannu yn rhinwedd buddiant ynddo neu yn rhinwedd gorchymyn llys,
b
â thrwydded datganedig neu oblygedig i’w feddiannu, neu
c
yn ei feddiannu fel preswylfa yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol cyfreithiol sy’n rhoi i’r person yr hawl i barhau i feddiannu neu’n cyfyngu ar hawl person arall i adennill meddiant.
2
Mae person yn ddigartref hefyd os oes gan y person lety ond—
a
nad yw’n gallu cael mynediad iddo, neu
b
mae’n strwythur, yn gerbyd neu’n gwch symudol, sydd wedi ei ddylunio neu ei addasu i bobl fyw ynddo ac nad oes unrhyw fan lle mae’r person â’r hawl neu’r caniatâd i’w leoli ac hefyd i fyw ynddo.
3
Ni chaniateir i berson gael ei drin fel person sydd â llety oni bai ei fod yn lety y byddai’n rhesymol i’r person barhau i’w feddiannu.
4
Mae person o dan fygythiad o ddigartrefedd os yw’n debygol y bydd y person yn dod yn ddigartref o fewn 56 o ddiwrnodau.
I3I1156Ystyr llety sydd ar gael i’w feddiannu
1
Caniateir i lety gael ei ystyried yn llety sydd ar gael i berson ei feddiannu ond os yw ar gael i’r person hwnnw ei feddiannu ynghyd ag—
a
unrhyw berson arall sy’n preswylio gyda’r person hwnnw fel arfer fel aelod o’i deulu, neu
b
unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.
2
Dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at sicrhau bod llety ar gael i berson ei feddiannau yn unol â hynny.
I4I7I1257A yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety
1
Nid yw’n rhesymol i berson barhau i feddiannu llety os yw’n debygol y bydd yn arwain at fod y person hwnnw, neu aelod o aelwyd y person hwnnw, yn wynebu camdriniaeth.
2
Yn yr adran hon ystyr “aelod o aelwyd y person” yw—
a
person sy’n preswylio gydag ef fel arfer fel aelod o’i deulu, neu
b
unrhyw berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r person hwnnw.
3
Wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety—
a
caiff awdurdod tai lleol roi sylw i’r amgylchiadau cyffredinol presennol mewn perthynas â thai yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae’r person wedi gwneud cais iddo am gymorth i sicrhau llety;
b
rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.
4
Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—
a
amgylchiadau eraill lle bydd yn cael ei ystyried yn rhesymol neu’n afresymol i berson barhau i feddiannu llety, a
b
materion eraill i’w hystyried neu eu diystyru wrth benderfynu a fyddai’n rhesymol, neu y byddai wedi bod yn rhesymol, i berson barhau i feddiannu llety.
I5I1358Ystyr camdriniaeth a camdriniaeth ddomestig
1
Ystyr “camdriniaeth” yw trais corfforol, ymddygiad bygythiol neu fygylus ac unrhyw ffurf arall ar gamdriniaeth a all, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, arwain at y perygl o niwed; ac ystyr “camdriniaeth ddomestig” yw camdriniaeth sy’n dod o du person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr.
2
Mae person yn gysylltiedig â pherson arall os ydynt—
a
yn briod â’i gilydd neu wedi bod yn briod â’i gilydd;
b
yn bartneriaid sifil i’w gilydd neu wedi bod yn bartneriaid sifil i’w gilydd;
c
yn byw â’i gilydd neu wedi bod yn byw â’i gilydd mewn perthynas deuluol barhaus (pa un ai os ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw);
d
yn byw neu wedi byw ar yr un aelwyd;
e
yn berthnasau;
f
wedi cytuno i briodi ei gilydd (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);
g
wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth sifil rhyngddynt (pa un a yw’r cytundeb hwnnw wedi ei derfynu ai peidio);
h
mewn perthynas bersonol agos â’i gilydd, neu wedi bod mewn perthynas o’r fath, sydd, neu a oedd, wedi parhau am gyfnod sylweddol;
i
mewn perthynas â phlentyn, y naill a’r llall yn rhiant i’r plentyn neu â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, neu wedi bod â chyfrifoldeb o’r fath.
3
Os yw plentyn wedi ei fabwysiadu neu yn dod o fewn is-adran (4), mae dau berson hefyd yn gysylltiedig â’i gilydd at ddibenion y Bennod hon—
a
os yw un yn rhiant naturiol i’r plentyn neu’n rhiant i riant naturiol o’r fath, a
b
y person arall yw—
i
y plentyn, neu
ii
person sydd wedi dod yn rhiant i’r plentyn yn rhinwedd gorchymyn mabwysiadu, sydd wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu neu y mae’r plentyn wedi ei leoli gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu ar unrhyw adeg.
4
Mae plentyn yn dod o fewn yr adran hon—
a
os yw asiantaeth fabwysiadu, o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, wedi ei hawdurdodi i leoli’r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu o dan adran 19 o’r Ddeddf honno (gosod plentyn â chydsyniad rhiant) neu mae’r plentyn wedi dod yn destun gorchymyn o dan adran 21 o’r Ddeddf honno (gorchmynion lleoli), neu
b
os yw’r plentyn yn cael ei ryddhau ar gyfer ei fabwysiadu yn rhinwedd gorchymyn a wneir—
i
yng Nghymru a Lloegr, o dan adran 18 o Ddeddf Mabwysiadu 1976,
ii
yng Ngogledd Iwerddon, o dan Erthygl 17(1) neu 18(1) o Orchymyn Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987, neu
c
os yw’r plentyn yn destun gorchymyn parhauster yn yr Alban sy’n cynnwys rhoi’r awdurdod i fabwysiadu.
5
Yn yr adran hon—
mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;
mae i “cytundeb partneriaeth sifil” yr ystyr a roddir i “civil partnership agreement” gan adran 73 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004;
ystyr “gorchymyn mabwysiadu” yw gorchymyn mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption order” gan adran 72(1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 neu adran 46(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â pherson, yw rhiant, taid (tad-cu), nain (mam-gu), plentyn, ŵyr neu wyres, brawd, hanner brawd, chwaer, hanner chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno neu sydd wedi bod yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).
I6I8I1459Addasrwydd llety
1
Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i’r deddfiadau canlynol—
a
Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (clirio slymiau);
b
Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (gorlenwi);
c
Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 (cyflwr tai);
d
Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth);
e
Rhan 3 o Ddeddf Tai 2004 (trwyddedu dethol ar gyfer llety preswyl arall);
f
Rhan 4 o Ddeddf Tai 2004 (darpariaethau rheoli atodol mewn perthynas â llety preswyl);
g
Rhan 1 o’r Ddeddf hon (rheoleiddio tai rhentu preifat).
2
Wrth benderfynu a yw llety’n addas ar gyfer person, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i pa un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio.
3
Caiff Gweinidogion Cymru bennu’r canlynol drwy orchymyn—
a
amgylchiadau lle bo llety i’w ystyried yn addas ar gyfer person, a lle na fo i’w ystyried felly, a
b
materion i’w hystyried neu i’w diystyru wrth benderfynu a yw llety yn addas ar gyfer person.