RHAN 3LL+CSIPSIWN A THEITHWYR

Cwrdd ag anghenion lletyLL+C

106CanllawiauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.

Valid from 25/02/2015

CyffredinolLL+C

108DehongliLL+C

Yn y Rhan hon—

  • mae “anghenion llety” (“accommodation needs”) yn cynnwys anghenion mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt;

  • mae gan “cartref symudol” (“mobile home”) yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;

  • ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw—

    (a)

    personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

    (i)

    personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a

    (ii)

    aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a

    (b)

    unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

109Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a TheithwyrLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—

(a)ychwanegu disgrifiad o bersonau;

(b)addasu disgrifiad o bersonau;

(c)dileu disgrifiad o bersonau.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).

110Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.