xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Yn y Rhan hon—
mae “anghenion llety” (“accommodation needs”) yn cynnwys anghenion mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt;
mae gan “cartref symudol” (“mobile home”) yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;
ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw—
personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a
aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a
unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 108 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(f)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—
(a)ychwanegu disgrifiad o bersonau;
(b)addasu disgrifiad o bersonau;
(c)dileu disgrifiad o bersonau.
(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I4A. 109 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(g)
Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I6A. 110 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)