Cymhorthdal Cyfrif Refeniw TaiLL+C
131Diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw TaiLL+C
(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer diddymu’r cymhorthdal sy’n daladwy mewn perthynas â Chyfrifon Refeniw Tai awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(2)Mae’r Deddf honno wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(3)Yn Rhan 6 (Cyllid Tai)—
(a)hepgorer adran 79 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
(b)hepgorer adran 80 (cyfrifo cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
(c)hepgorer adran 80ZA (symiau cymhorthdal negyddol a fo’n daladwy i berson priodol);
(d)hepgorer adran 80A (penderfyniad terfynol ynglŷn â’r swm o gymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
(e)hepgorer adran 80B (cytundebau i eithrio awdurdodau neu eiddo penodol);
(f)hepgorer adran 85 (y pŵer i gael gwybodaeth);
(g)hepgorer adran 86 (adennill cymhorthdal mewn rhai achosion).
(4)Yn Atodlen 4 (cadw’r Cyfrif Refeniw Tai)—
(a)yn Rhan 1 (credydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 3 (cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai);
(b)yn Rhan 2 (debydau i’r Cyfrif), hepgorer Eitem 5 (symiau sy’n daladwy o dan adran 80ZA);
(c)yn Rhan 3 (achosion arbennig), hepgorer paragraff 2 (balans credyd pan nad yw cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai yn daladwy) a’r pennawd yn union cyn y paragraff hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I2A. 131(1)(2)(3)(4)(a)(b) mewn grym ar 23.11.2016 gan O.S. 2016/1009, ergl. 2(5)
I3A. 131(1)-(3)(4)(a)(b) mewn grym ar 20.3.2019 gan O.S. 2019/553, ergl. 2
I4A. 131(4)(c) mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1