RHAN 9AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
I1142Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddosbarthiadau o achosion, gwahanol ardaloedd neu at wahanol ddibenion;
b
i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu yn ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthiadau o achosion yn unig;
c
i wneud y gyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl y person sy’n gwneud y gorchymyn neu’r rheoliadau yn dda.
3
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
yn Rhan 1—
i
gorchymyn a wneir o dan adran 2(1)(c), 3, 5(f), 6(3), 7(4), 8(f), 10(4)(d), 12(3)(d), 14(3), 20(7) neu 29(5);
ii
rheoliadau a wneir o dan adran 19(2);
b
yn Rhan 2—
i
gorchymyn a wneir o dan adran 57(4), 59(3), 72, 80(5)(b)(i), 80(8) neu 81(4);
ii
rheoliadau a wneir o dan adran 78(1) neu 86(1) a rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 1 o Atodlen 2;
c
yn Rhan 3, gorchymyn a wneir o dan adran 101 neu 109;
d
yn y Rhan hon, rheoliadau a wneir o dan adran 144 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys gorchymyn neu reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon ac eithrio gorchymyn a wneir o dan adran 40(7) yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir o dan adran 80(5)(b)(ii) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad—
a
dau Dŷ’r Senedd, a
b
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi ei osod gerbron dau Dŷ’r Senedd, a’i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad.
7
Nid yw’r adran hon yn gymwys i orchymyn a wneir o dan adran 145 (cychwyn).
I2143Ystyr awdurdod tai lleol
Yn y Ddeddf hon ystyr “awdurdod tai lleol” yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru, ac mae ystyr estynedig iddo at ddibenion Rhan 2 (gweler adran 99).
I3144Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn ei hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i roi effaith felly, cânt wneud y canlynol drwy reoliadau—
a
unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a
b
unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
2
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu (ymysg pethau eraill) unrhyw ddeddfiad.
3
Yn yr adran hon ystyr “deddfiad” yw deddfiad (pa bryd bynnag y caiff ei ddeddfu neu ei wneud) a gynhwysir yn y canlynol, neu mewn offeryn a wneir o dan y canlynol—
a
Deddf Seneddol,
b
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).
I4145Cychwyn
1
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol—
a
adran 142;
b
adran 143;
c
yr adran hon;
d
adran 146.
2
Bydd adrannau 132 i 136 yn Rhan 5 (Cyllid Tai) yn dod i rym ar ôl diwedd y cyfnod o 2 fis gan ddechrau gyda’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn derbyn Cydsyniad Brenhinol.
3
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
4
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
a
pennu gwahanol ddyddiau at wahanol ddibenion;
b
cynnwys y gyfryw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
I5146Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Tai (Cymru) 2014.