ATODLEN 1COFRESTR O DAI RHENT PREIFAT

(cyflwynir gan adran 14)

RHAN 1CYNNWYS COFRESTR

Landlordiaid

1

Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy’n ymwneud â landlord gofnodi’r canlynol—

(a)

enw’r landlord;

(b)

os yw’r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y landlord;

(c)

cyfeiriad pob eiddo ar rent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae’r landlord yn landlord arno;

(d)

enw a rhif trwydded unrhyw berson a benodir gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo ar rent y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef;

(e)

rhif cofrestru’r landlord;

(f)

y dyddiad pan gofrestrwyd y landlord;

(g)

pan fo trwydded wedi cael ei rhoi i’r landlord—

(i)

y dyddiad pan roddwyd y drwydded neu y cafodd y drwydded ei hadnewyddu;

(ii)

rhif y drwydded;

(iii)

a yw’r drwydded wedi ei diwygio o dan adran 24; ac os ydyw y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(iv)

a yw’r drwydded wedi dod i ben heb gael ei hadnewyddu, neu wedi cael ei dirymu; ac os ydyw y dyddiad dod i ben neu ddirymu;

(h)

pan fo cais gan y landlord am drwydded wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)

dyddiad y gwrthodiad;

(ii)

a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(i)

pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

(j)

pan fo tribiwnlys eiddo preswyl wedi gwneud gorchymyn atal rhent (gweler adran 30) mewn cysylltiad ag eiddo preswyl y mae’r landlord yn landlord iddo—

(i)

bod gorchymyn o’r fath wedi ei wneud;

(ii)

y dyddiad y daeth y gorchymyn i effaith;

(iii)

y dyddiad y peidiodd y gorchymyn gael effaith (gweler adran 31).

Asiantau

2

Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—

(a)

enw’r person;

(b)

cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;

(c)

os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;

(d)

os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;

(e)

pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)

y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;

(ii)

rhif y drwydded;

(iii)

a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;

(f)

pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—

(i)

dyddiad y gwrthodiad;

(ii)

a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;

(g)

pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.

RHAN 2MYNEDIAD I GOFRESTR

3

(1)

Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu cyfeiriad eiddo ar rent sydd ar ei gofrestr i’r awdurdod.

(2)

Yr wybodaeth honno yw—

(a)

enw landlord yr eiddo ac enw unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo;

(b)

a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig;

(c)

os yw gorchymyn atal rhent o dan adran 30 yn cael effaith mewn perthynas â’r eiddo, bod y cyfryw orchymyn yn cael effaith.

4

(1)

Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—

(a)

enw landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)

enw person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)

Yr wybodaeth honno yw—

(a)

a yw’r landlord yn gofrestredig;

(b)

a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.

5

(1)

Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—

(a)

rhif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu

(b)

rhif trwydded person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.

(2)

Yr wybodaeth honno yw—

(a)

enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord(fel y bo’n gymwys);

(b)

a yw’r landlord yn gofrestredig;

(c)

a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.