ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 1DIGARTREFEDD
I1I222Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
1
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff (a) o adran 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc), yn lle “Deddf Tai 1996” rhodder “Deddf Tai (Cymru) 2014”.
3
Yn y tabl yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—
a
hepgorer yr eitem ar gyfer Deddf Tai 1996;
b
ar ôl yr eitem ar gyfer Deddf Gofal 2014 mewnosoder—
Deddf Tai (Cymru) 2014
Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno.
Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.