Deddf Tai (Cymru) 2014

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

26(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y diffiniad o “Sipsiwn a Theithwyr” yn adran 62 (dehongli arall), yn lle’r geiriau o “personau” lle mae’n digwydd gyntaf hyd at y diwedd rhodder

(a)

personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

(i)

personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a

(ii)

aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

(b)

unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;.

(3)yn is-baragraff (1) o baragraff 10 o Atodlen 1 (siewmyn teithiol), hepgorer “safle’n” a mewnosoder “safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)