ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 2SIPSIWN A THEITHWYR

I1I523Deddf Llywodraeth Leol 2003

1

Mae’r diffiniad o “housing” yn is-adran (4) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (datganiadau a strategaethau tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn—

a

hepgorer y geiriau “section 225 of the Housing Act 2004”, a

b

ar ôl “of” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder—

a

section 225 of the Housing Act 2004, in the case of a local housing authority in England;

b

Part of the Housing (Wales) Act 2014, in the case of a local housing authority in Wales.

I2I624Deddf Tai 2004

1

Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn adran 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr)—

a

yn is-adran (1), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

b

yn is-adran (2), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,

c

yn y diffiniad o “gypsies and travellers” yn is-adran (5), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

d

yn y pennawd, ar ôl “local housing authorities” mewnosoder “in England”.

3

Yn is-adran (1) o adran 226 (canllawiau mewn perthynas ag adran 225)—

a

yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a

b

ar ôl “local housing authorities” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder “in England”.

I3I725Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235)

I4I826Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

1

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Yn y diffiniad o “Sipsiwn a Theithwyr” yn adran 62 (dehongli arall), yn lle’r geiriau o “personau” lle mae’n digwydd gyntaf hyd at y diwedd rhodder

  1. a

    personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

    1. i

      personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a

    2. ii

      aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

  2. b

    unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;

3

yn is-baragraff (1) o baragraff 10 o Atodlen 1 (siewmyn teithiol), hepgorer “safle’n” a mewnosoder “safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn”.