ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL
RHAN 5DIWYGIADAU I DDEDDF CARTREFI SYMUDOL (CYMRU) 2013
30
(1)
Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(b)
wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu”.
(3)
Yn adran 33 (gorchmynion ad-dalu)—
(a)
hepgorer is-adran (7);
(b)
yn is-adran (8) yn lle “(11)” rhodder “(10)”;
(c)
yn is-adran (9)(c) yn lle “ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu” rhodder “wedi ei gollfarnu yn flaenorol”.
(4)
Yn adran 39(1) (dehongli Rhan 2) hepgorer y diffiniad o “awdurdod tân ac achub” a mewnosoder ef yn adran 62 (dehongli arall) yn y man priodol.
(5)
Yn adran 49(4) (manylion cytundebau cartrefi symudol) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.
(6)
Yn adran 53(4) (olynwyr mewn teitl) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.
(7)
Yn adran 61(7) (ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”) hepgorer y diffiniad o “cytundeb cymrodeddu” a “tribiwnlys”.