Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/02/2015.
Deddf Tai (Cymru) 2014 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Rhagfyr 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Valid from 23/11/2015
(cyflwynir gan adran 14)
1Rhaid i gofnod mewn cofrestr sy’n ymwneud â landlord gofnodi’r canlynol—
(a)enw’r landlord;
(b)os yw’r landlord yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa y landlord;
(c)cyfeiriad pob eiddo ar rent yn ardal yr awdurdod trwyddedu y mae’r landlord yn landlord arno;
(d)enw a rhif trwydded unrhyw berson a benodir gan y landlord i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran y landlord a chyfeiriad pob eiddo ar rent y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef;
(e)rhif cofrestru’r landlord;
(f)y dyddiad pan gofrestrwyd y landlord;
(g)pan fo trwydded wedi cael ei rhoi i’r landlord—
(i)y dyddiad pan roddwyd y drwydded neu y cafodd y drwydded ei hadnewyddu;
(ii)rhif y drwydded;
(iii)a yw’r drwydded wedi ei diwygio o dan adran 24; ac os ydyw y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
(iv)a yw’r drwydded wedi dod i ben heb gael ei hadnewyddu, neu wedi cael ei dirymu; ac os ydyw y dyddiad dod i ben neu ddirymu;
(h)pan fo cais gan y landlord am drwydded wedi cael ei wrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)dyddiad y gwrthodiad;
(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
(i)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.
(j)pan fo tribiwnlys eiddo preswyl wedi gwneud gorchymyn atal rhent (gweler adran 30) mewn cysylltiad ag eiddo preswyl y mae’r landlord yn landlord iddo—
(i)bod gorchymyn o’r fath wedi ei wneud;
(ii)y dyddiad y daeth y gorchymyn i effaith;
(iii)y dyddiad y peidiodd y gorchymyn gael effaith (gweler adran 31).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
2Rhaid i gofnod yn y gofrestr ar gyfer person sydd wedi ei drwyddedu i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord gofnodi’r canlynol—
(a)enw’r person;
(b)cyfeiriad y person ar gyfer gohebiaeth;
(c)os yw’r person yn gorff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r person;
(d)os yw’r person yn ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran landlord yn rhinwedd busnes, cyfeiriad unrhyw fangre yn ardal yr awdurdod trwyddedu a ddefnyddir at y diben hwnnw;
(e)pan fo trwydded wedi ei rhoi i’r person gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)y dyddiad y rhoddwyd y drwydded;
(ii)rhif y drwydded;
(iii)a addaswyd y drwydded o dan adran 24; ac os felly y dyddiad y cafodd y diwygiad effaith;
(f)pan fo cais gan y person am drwydded wedi ei gwrthod gan yr awdurdod trwyddedu—
(i)dyddiad y gwrthodiad;
(ii)a gyflwynwyd apêl yn erbyn y gwrthodiad o dan adran 27;
(g)pan gyflwynwyd apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod trwyddedu i wrthod cais, os cadarnhaodd y tribiwnlys neu’r llys benderfyniad yr awdurdod, dyddiad y penderfyniad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
3(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu cyfeiriad eiddo ar rent sydd ar ei gofrestr i’r awdurdod.LL+C
(2)Yr wybodaeth honno yw—
(a)enw landlord yr eiddo ac enw unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas â’r eiddo;
(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i wneud gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig;
(c)os yw gorchymyn atal rhent o dan adran 30 yn cael effaith mewn perthynas â’r eiddo, bod y cyfryw orchymyn yn cael effaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
4(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C
(a)enw landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu
(b)enw person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.
(2)Yr wybodaeth honno yw—
(a)a yw’r landlord yn gofrestredig;
(b)a yw’r landlord neu’r person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
5(1)Rhaid i awdurdod trwyddedu hysbysu person am yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (2) os yw’r person hwnnw yn gwneud cais am yr wybodaeth ac yn darparu’r canlynol i’r awdurdod—LL+C
(a)rhif cofrestru neu rif trwydded landlord eiddo ar rent mewn ardal y mae’r awdurdod yn awdurdod trwyddedu ar ei chyfer, neu
(b)rhif trwydded person a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord mewn perthynas ag unrhyw eiddo o’r fath.
(2)Yr wybodaeth honno yw—
(a)enw’r landlord ac unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord(fel y bo’n gymwys);
(b)a yw’r landlord yn gofrestredig;
(c)a yw’r landlord neu unrhyw berson a benodwyd i ymgymryd â gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord (fel y bo’n gymwys) yn drwyddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
(cyflwynir gan adran 61)
1(1)Nid yw person yn gymwys i dderbyn cymorth o dan adran 66, 68, 73 neu 75 os yw’n berson o dramor sydd yn anghymwys am gynhorthwy tai.
(2)Nid yw person sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo o fewn ystyr Deddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn gymwys am gynhorthwy tai oni bai bod y person hwnnw yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
(3)Ni chaiff unrhyw berson a eithrir rhag hawlogaeth i gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai gan adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) ei gynnwys mewn unrhyw ddosbarth a ragnodir o dan is-baragraff (2).
(4)Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu, drwy reoliadau, ar gyfer disgrifiadau eraill o bersonau sydd i’w trin fel personau o dramor sydd yn anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai at ddiben Pennod 2 o Ran 2.
(5)Caiff person sy’n anghymwys i dderbyn cynhorthwy tai ei ddiystyru wrth benderfynu at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 a yw person sy’n dod o dan is-baragraff (6)—
(a)yn ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd, neu
(b)ag angen blaenoriaethol am lety.
(6)Mae person yn dod o fewn yr is-adran hon—
(a)os yw’r person yn dod o fewn dosbarth a ragnodir gan reoliadau a wneir o dan is-baragraff (2), a
(b)os nad yw’r person yn wladolyn un o wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I7Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2
Valid from 27/04/2015
2(1)Hyd gychwyn diddymiad adran 186 o Ddeddf Tai 1996 (ceiswyr lloches a’u dibynyddion), mae’r adran honno yn gymwys i Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon fel y bo’n gymwys i Ran 7 o’r Ddeddf honno.
(2)At y diben hwn, yn adran 186 o Ddeddf Tai 1996—
(a)dehonglir y cyfeiriad at adran 185 o’r Ddeddf honno fel cyfeiriad at baragraff 1, a
(b)dehonglir y cyfeiriad at “this Part” fel cyfeiriad at Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon ac nid Rhan 7 o’r Deddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
Valid from 27/04/2015
3(1)Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, ar gais awdurdod tai lleol, ddarparu’r gyfryw wybodaeth ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod—
(a)o ran a yw person yn berson y mae adran 115 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (eithrio rhag budd-daliadau) yn gymwys iddo, a
(b)i alluogi’r awdurdod i benderfynu a yw’r cyfryw berson yn gymwys i dderbyn cymorth o dan Bennod 2 o Ran 2.
(2)Pan roddir yr wybodaeth honno ar unrhyw ffurf ac eithrio ffurf ysgrifenedig, mae’n rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gadarnhau’r wybodaeth honno yn ysgrifenedig os gwneir cais ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan yr awdurdod.
(3)Os yr ymddengys i’r Ysgrifennydd Gwladol bod unrhyw gais, penderfyniad neu newid arall mewn amgylchiadau wedi effeithio ar statws person y rhoddwyd gwybodaeth amdano yn flaenorol i awdurdod tai lleol o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig am y ffaith honno, y rheswm dros y ffaith a’r dyddiad y daeth yr wybodaeth flaenorol yn anghywir.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
(fel y’i cyflwynir gan adrannau 100, 110, 130, 139 a 141)
Valid from 27/04/2015
1Ym mharagraff 4 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1985 (tenantiaethau na allant fod yn denantiaethau sicr), ar ôl “(homelessness)” mewnosoder “or Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (homelessness)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
2Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
3Yn adran 167 (dyrannu llety tai yn unol â chynllun dyrannu: Cymru)—
(a)yn is-adran (2)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “(within the meaning of Part 7)” mewnosoder “(within the meaning of Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014)”;
(ii)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)people who are owed any duty by a local housing authority under section 66, 73 or 75 of the Housing (Wales) Act 2014;”
(b)yn is-adran (2ZA), yn lle “Part 7” rhodder “Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014”;
(c)yn is-adran (2A)(c), yn lle “section 199” rhodder “section 81 of the Housing (Wales) Act 2014”.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
4Yn enw Rhan 7 (digartrefedd), ar ôl “Homelessness” mewnosoder “: England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
5Yn is-adran (1) o adran 179 (dyletswydd awdurdod tai lleol i ddarparu gwasanaethau cynghorol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
6Yn is-adran (1) o adran 180 (cynhorthwy ar gyfer sefydliadau gwirfoddol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
7Yn is-adran (1) o adran 182 (canllawiau gan yr Ysgrifennydd Gwladol), ar ôl “social services authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
8Yn is-adran (1) o adran 183 (cais am gynhorthwy), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
9Yn is-adran (1) o adran 187 (darparu gwybodaeth gan Ysgrifennydd Gwladol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
10Yn adran 193 (dyletswydd i bersonau ag angen blaenoriaethol nad ydynt yn ddigartref yn fwriadol)—
(a)yn is-adran (10), yn lle “appropriate authority” rhodder “Secretary of State”;
(b)hepgorer is-adran (12).
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
11Yn adran 198 (atgyfeirio achos at awdurdod tai arall)—
(a)ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Subsection (4) is to be construed, in a case where the other authority is an authority in Wales, as if the reference to “this Part” were a reference to Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014”
(b)yn is-adran (5), ar ôl “case” mewnosoder “which does not involve a referral to a local housing authority in Wales”;
(c)ar ôl yr is-adran honno, mewnosoder—
“(5A)The question whether the conditions for referral of a case involving a referral to a local housing authority in Wales shall be decided by agreement between the notifying authority and the notified authority or, in default of agreement, in accordance with such arrangements as the Secretary of State and the Welsh Ministers may jointly direct by order.””;
(d)yn is-adran (6)(b), ar ôl “Secretary of State” mewnosoder “or, in the case of an order under subsection (5A), to the Secretary of State and the Welsh Ministers”;
(e)yn is-adran (7)—
(i)yn lle “No such order shall” rhodder “An order under this section shall not”; a
(ii)ar y diwedd, mewnosoder “and, in the case of a joint order, a resolution of the National Assembly for Wales”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 3 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
12Yn is-adran (4) o adran 200 (dyletswyddau i geisydd y mae ei gais yn cael ei ystyried ar gyfer ei atgyfeirio neu’n cael ei atgyfeirio)—
(a)ar ôl “met” mewnosoder “ and the notified authority is not an authority in Wales”, a
(b)ar y diwedd, mewnosoder “; for provision about cases where it is decided that those conditions are met and the notified authority is an authority in Wales, see section 83 of the Housing (Wales) Act 2014 (cases referred from a local housing authority in England)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
13Ar ôl adran 201 (cymhwyso darpariaethau atgyfeirio at achosion sy’n codi yn yr Alban) mewnosoder—
(1)This section applies where an application has been referred by a local housing authority in Wales to a local housing authority in England under section 80 of the Housing (Wales) Act 2014 (referral of case to another local housing authority).
(2)If it is decided that the conditions in that section for referral of the case are met, the notified authority are subject to the duty under section 193 of this Act in respect of the person whose case is referred (the main housing duty); for provision about cases where it is decided that the conditions for referral are not met, see section 82 of the Housing (Wales) Act 2014 (duties to applicant whose case is considered for referral or referred).
(3)References in this Part to an applicant include a reference to a person to whom a duty is owed by virtue of subsection (2).”
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
14Yn is-adran (1) o adran 213 (cydweithredu rhwng cyrff ac awdurdodau tai perthnasol), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
15Mae Deddf Digartrefedd 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 3 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
16Yn y croesbennawd uwchben adran 1, ar ôl “strategies” mewnosoder “: England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
17Yn adran 1 (dyletswydd awdurdod tai lleol i lunio strategaeth ddigartrefedd)—
(a)yn is-adrannau (1) a (5), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”;
(b)yn y pennawd, ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 3 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
18Yn is-adran (7A) o adran 3 (strategaethau digartrefedd), hepgorer “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 3 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
19Yn is-adran (1)(a) o adran 50 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (ystyr gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant), yn lle “Ran 7 o’r Ddeddf honno” rhodder “Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014”.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 3 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
20(1)Mae Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff 34 o Ran 1 o Atodlen 1 (digartrefedd)—
(a)yn is-baragraff (1), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
“(c)Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014 (homelessness).”;
(b)yn is-baragraff (3) yn lle ”as in section 175 of the Housing Act 1996” rhodder “—
(a)as in section 175 of the Housing Act 1996 in cases where sub-paragraph (1) applies in relation to the provision of accommodation and assistance under—
(i)Part 6 of that Act as it relates to England;
(ii)Part 7 of that Act;
(b)as in section 55 of the Housing (Wales) Act 2014 in cases where sub-paragraph (1) applies in relation to the provision of accommodation and assistance under—
(i)Part 6 of the Housing Act 1996 as it relates to Wales;
(ii)Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014.”
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
21Yn is-adran (7)(d) o adran 7 o Ddeddf Rhwystro Twyll Tai Cymdeithasol 2013 (rheoliadau ynghylch pwerau i’w gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth), ar ôl “Housing Act 1996” mewnosoder “or under Part 2 of the Housing (Wales) Act 2014”.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 3 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
22(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ym mharagraff (a) o adran 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc), yn lle “Deddf Tai 1996” rhodder “Deddf Tai (Cymru) 2014”.
(3)Yn y tabl yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol)—
(a)hepgorer yr eitem ar gyfer Deddf Tai 1996;
(b)ar ôl yr eitem ar gyfer Deddf Gofal 2014 mewnosoder—
“Deddf Tai (Cymru) 2014 Adran 95(2),(3) a (4); ond dim ond pan fo’r swyddogaethau hynny’n gymwys yn rhinwedd is-adran (5)(b) o’r adran honno. | Cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn perthynas â phersonau digartref a phersonau sydd o dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref.” |
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 3 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
23(1)Mae’r diffiniad o “housing” yn is-adran (4) o adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (datganiadau a strategaethau tai) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)hepgorer y geiriau “section 225 of the Housing Act 2004”, a
(b)ar ôl “of” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder—
“(a)section 225 of the Housing Act 2004, in the case of a local housing authority in England;
(b)Part of the Housing (Wales) Act 2014, in the case of a local housing authority in Wales.”
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 3 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I33Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)
24(1)Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,
(b)yn is-adran (2), ar ôl “local housing authority” mewnosoder “in England”,
(c)yn y diffiniad o “gypsies and travellers” yn is-adran (5), yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a
(d)yn y pennawd, ar ôl “local housing authorities” mewnosoder “in England”.
(3)Yn is-adran (1) o adran 226 (canllawiau mewn perthynas ag adran 225)—
(a)yn lle “appropriate national authority” rhodder “Secretary of State”, a
(b)ar ôl “local housing authorities” lle mae’n digwydd gyntaf mewnosoder “in England”.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 3 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I35Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)
25Mae Rheoliadau Tai (Asesiad o Anghenion Llety) (Ystyr Sipsiwn a Theithwyr) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3235) wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 3 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I37Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)
26(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn y diffiniad o “Sipsiwn a Theithwyr” yn adran 62 (dehongli arall), yn lle’r geiriau o “personau” lle mae’n digwydd gyntaf hyd at y diwedd rhodder “—
personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a
aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a
unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;”.
(3)yn is-baragraff (1) o baragraff 10 o Atodlen 1 (siewmyn teithiol), hepgorer “safle’n” a mewnosoder “safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn”.
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 3 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I39Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)
27Yn adran 24 (rhent ar gyfer meddiannu tai awdurdodau tai lleol) o Ddeddf Tai 1985—
(a)hepgorer is-adrannau (3) a (4);
(b)ar ôl is-adran (5), mewnosoder—
“(6)In exercising its functions under this section, a local housing authority in Wales must—
(a)comply with any standards relating to rent or service charges which are set for it under section 111 of the Housing (Wales) Act 2014, and
(b)have regard to any guidance relating to rent or service charges which is issued under section 112 of that Act.”
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 3 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I41Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
28(1)Mae Deddf Tai 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 33A (safonau perfformiad i landlordiaid cymdeithasol gwrdd â hwy) ar ôl is-adran (2), mewnosoder—
“(2A)Standards set under subsection (1) may require registered social landlords to comply with rules specified in the standards.
(2B)The Welsh Ministers may—
(a)revise the standards by issuing further standards under this section;
(b)withdraw the standards by issuing further standards under this section or by notice.
(2C)The Welsh Ministers must publish any standards or notice under this section.”
(3)Yn adran 33B (canllawiau gan Weinidogion Cymru safonau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestrefig)—
(a)yn lle is-adran (3) rhodder—
“(3)The Welsh Ministers may—
(a)revise the guidance by issuing further guidance under this section;
(b)withdraw the guidance by issuing further guidance under this section or by notice.”
(b)yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4)The Welsh Ministers must publish any guidance or notice under this section.”
(4)Yn adran 33C (ymgynghori cyn gosod safonau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu dyroddi canllawiau ar safonau), ar ôl “setting” mewnosoder “, revising or withdrawing”.
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 3 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I43Atod. 3 para. 28 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Valid from 16/12/2015
29(1)Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 11(2) (gostyngiadau), yn lle “and 12” rhodder “, 12, 12A and 12B”.
(3)Yn adran 12 (gostyngiadau: darpariaeth arbennig ar gyfer Cymru), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
“(4A)Subsections (3) and (4) are subject to section 12A(6) and 12B(7).”
(4)Yn adran 13(3) (symiau gostyngol), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.
(5)Yn adran 66(2)(b) (adolygiad barnwrol), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.
(6)Yn adran 67(2)(a) (swyddogaethau i’w cyflawni gan awdurdod yn unig), yn lle “or 12” rhodder “, 12, 12A or 12B”.
(7)Yn Atodlen 2 (gweinyddu),ym mharagraff 4(7) yn lle “(higher amount of tax for empty dwellings)” rhodder “(higher amount of tax for empty dwellings: England), 12A(1)(b) (higher amount of tax for empty dwellings: Wales) or 12B(1)(b) (higher amount of tax for dwellings occupied periodically: Wales)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 3 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
30(1)Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C
(2)Yn adran 29(3) (penderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle), yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu”.
(3)Yn adran 33 (gorchmynion ad-dalu)—
(a)hepgorer is-adran (7);
(b)yn is-adran (8) yn lle “(11)” rhodder “(10)”;
(c)yn is-adran (9)(c) yn lle “ar unrhyw adeg wedi ei gollfarnu” rhodder “wedi ei gollfarnu yn flaenorol”.
(4)Yn adran 39(1) (dehongli Rhan 2) hepgorer y diffiniad o “awdurdod tân ac achub” a mewnosoder ef yn adran 62 (dehongli arall) yn y man priodol.
(5)Yn adran 49(4) (manylion cytundebau cartrefi symudol) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.
(6)Yn adran 53(4) (olynwyr mewn teitl) yn lle “Ddeddf” rhodder “Rhan”.
(7)Yn adran 61(7) (ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”) hepgorer y diffiniad o “cytundeb cymrodeddu” a “tribiwnlys”.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 3 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)
I46Atod. 3 para. 30 mewn grym ar 1.12.2014 gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: